Afon fechan yng Ngwynedd, Cymru, yw Afon Llyfni. Mae'n tarddu fel Nant Drws y Coed ar lethrau Y Garn a Mynydd Drws y Coed uwchben pentref gwledig Rhyd-ddu, man geni T. H. Parry-Williams. Wedi llifo tua'r gorllewin wrth ochr y ffordd B4418 mae'n cyrraedd Llyn Nantlle Uchaf.

Afon Llyfni
Mathafon Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirGwynedd Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau53.0495°N 4.3387°W Edit this on Wikidata
Map
Am yr afon yn ne Cymru, gweler Afon Llynfi.

Ar ôl llifo trwy'r llyn hwnnw mae'r afon yn newid ei henw i Afon Llyfni. Mae'n llifo i lawr Dyffryn Nantlle, gan godi dŵr o'r hen dyllau chwareli sy'n niferus iawn yn yr ardal yma, a llifo heibio Tal-y-sarn a Phen-y-groes. Mae'n cyrraedd y môr gerllaw Pontllyfni.

Yn y gorffennol defnyddid rhai o'r tyllau chwareli i gael gwared o sbwriel diwydiannol o wahanol fathau, a bu pryder fod hwn yn creu llygredd wrth i ddŵr o'r pyllau hyn lifo i mewn i Afon Llyfni. Mae'n ymddangos nad oes problem gydag ansawdd y dŵr ar hyn o bryd fodd bynnag, ac mae'r Llyfni yn afon boblogaidd gyda physgotwyr.

Enwau pyllau 'sgota Afon Llyfni

golygu
  • Pyllau Lan Mor
  • Cae Corn
  • Pwll Girdar
  • Cae Glas
  • Pont y Cim
  • Rhyd y Cim  (ger y bont)
  • Craig Dinas
  • Llyn Hir
  • Fflatiau
  • Pistyll
  • Llyn Tro
  • Steps Bryn Hwylfa
  • Glanrafon
  • Llyn Ffatri Glanrafon
  • Llyn Dwy Garreg
  • Tan y Bryn
  • Preifat No Fishing
  • Pwll Dolgau
  • Pwll Tywod
  • GORS
  • Pwll Eglwys
  • Fflatiau Felin Gerrig
  • Pwll Cefn Faes Llyn
  • Pwll Fatri
  • Plas
  • Caer Engan
  • Fflatiau Gwaith Gas
  • Mwd Talysarn

Buasai Cymdeithas Enwau Lleoedd Cymru yn gwerthfawrogi gwybodaeth am leoliadau'r pyllau uchod.