Llyn Nantlle Uchaf

llyn, Gwynedd, Cymru

Llyn yn Nyffryn Nantlle yng Ngwynedd yw Llyn Nantlle Uchaf. Saif y llyn, sydd ag arwynebedd o 80 acer, i'r de o'r ffordd B4418 rhwng Talysarn a Rhyd Ddu, gerllaw pentref Nantlle.

Llyn Nantlle Uchaf
Mathllyn Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau53.0542°N 4.2178°W Edit this on Wikidata
Cod OSSH515535 Edit this on Wikidata
Map

Ar un adeg roedd dau lyn yma, ond gyda datblygiad y diwydiant llechi sychwyd Llyn Nantlle Isaf i geisio lleihau llifogydd yng ngweithfeydd Chwarel Dorothea gerllaw. Mae cysylltiadau â chwedl Math fab Mathonwy; rhwng y ddau lyn y cafodd Gwydion hyd i Lleu Llaw Gyffes ar ffurf eryr. Yn ddiweddarach, roedd Marged uch Ifan yn cadw tafarn gerllaw.

Afon Drws-y-Coed yw'r fwyaf o'r afonydd a nentydd sy'n llifo i'r llyn, tra mae Afon Llyfni yn tarddu yma ac yn llifo tua'r gorllewin i gyrraedd y môr ger Pontllyfni.

Llyn Nantlle Isaf

golygu

Dyluniwyd lithograff gan C. Haghe o’r Wyddfa o lan llyn isaf Nantlle yn 1854.[1] Yn 1884 torrodd y dŵr i mewn i chwarel Dorothea, ac o’r herwydd, yn 1883 dechreuodd y gwaith o wagio’r llyn. Fe baentiwyd yr olygfa gan Richard Wilson a Turner. Meddai'r hanesydd lleol Dafydd Gwyn: “gwelir ager-beiriant yn codi ar y chwith yn Nghloddfa’r Lôn, a osodwyd ym 1840-41, a thomennydd yn ymestyn allan i'r dde. Erbyn arolygiad ordnans 1889, mae'r llyn wedi mwy neu lai diflannu”. Pa un o’r ddau lyn gwreiddiol, yr “isaf” a’r “uchaf” yw Llyn Baladeulyn tybed, a beth yw’r gwahaniaeth rhwng Llyn Nantlle a Llyn Baladeulyn - os oes gwahaniaeth? Dyma ddywed Twm Elias: “Mae ‘bala’ yn golygu lle mae afon yn llifo allan o lyn – fel gweli yn ‘Y Bala’, ac mae’r elfen ‘deulyn’ yn ei leoli rhwng y ddau lyn ’decini”. Felly, priodol yw gofyn ai rhan o bentre’ Nantlle yw Baladeulyn?

Mae cysylltiadau â chwedl Math fab Mathonwy; rhwng y ddau lyn y cafodd Gwydion hyd i Leu Llaw Gyffes ar ffurf eryr. Yn ddiweddarach, roedd Marged uch Ifan yn cadw tafarn gerllaw”.[2]

Cyfeiriadau

golygu