Afon Lyvennet
Afon yn Cumbria, gogledd-orllewin Lloegr, yw Afon Lyvennet.
Math | afon |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Cumbria |
Gwlad | Lloegr |
Cyfesurynnau | 54.6283°N 2.6078°W |
Aber | Afon Eden |
Llednentydd | Afon Leith |
Tardda afon Lyvennet (fel Lyvennet Beck) ger Robin Hood's Grave ar Rosdir Crosby Ravensworth, ardal gyfoethog ei henebion. Oddi yno mae'n llifo i gyfeiriad y gogledd trwy Crosby Ravensworth, Mauld's Meaburn a King's Meaburn, lle mae'n cael yr enw Afon Lyvennet.
Mae Afon Leith yn ymuno ag afon Lyvennet cyn i'r afon honno yn ei thro gyrraedd ei chymer yn Afon Eden.
Mae'n bosibl bod afon a dyffryn Lyvennet yn cadw enw bro Llwyfenydd, y cyfeirir ati yng nghanu Taliesin i Urien Rheged a'i fab Owain ab Urien. Credir bod Llwyfenydd yn rhan o deyrnas Rheged yn y 6g. Mae'r hen ffurfiau ar yr enw yn cynnwys Leveneth, Lyuened a Leuennydd.[1]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Ifor Williams (gol.), Canu Taliesin (Caerdydd, 1960), tud. xxix.