Afon Merddwr
Afon yn Sir Conwy yw Afon Merddwr, sy'n un o lednentydd dde Afon Conwy. Llifa'r afon yn ne-ddwyrain y sir i ymuno ag Afon Conwy ger Pentrefoelas. Hyd: tua 6 milltir.
Math | afon |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Conwy |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 53.05°N 3.66°W |
Cwrs
golyguTardda'r afon ar lethrau deheuol bryn Mwdwl-eithin (532 m), un o fryniau Mynydd Hiraethog. Ei henw yn rhan gyntaf ei chwrs yw Afon Llaethog. Llifa ar gwrs i gyfeiriad y de cyn troi i'r gorllewin gerllaw pentref bychan Glasfryn.[1]
Llifa sawl ffrwd i lawr o'r bryniau i lifo i'r afon sy'n llifo drwy gorsdir i'w chymer ag Afon Nug, ffrwd fechan sy'n llifo o'r bryniau ger Pentrefoelas. Mae'r corsydd hyn yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig a adnabyddir fel Corsydd Nug a Merddwr.
Llifa'r afon yn ei blaen gyda'r ffordd A5 ar ei glan dde, dan bont ar y B5113 ger Pentrefoelas ac ymlaen am filltir arall wedyn i'w chymer ar Afon Conwy 2 filltir i'r gogledd o Ysbyty Ifan.[1]