Afon Nedd Fechan
Afon yn ne Powys sy'n llifo i mewn i afon Nedd yw Afon Nedd Fechan.
Math |
afon ![]() |
---|---|
| |
Daearyddiaeth | |
Sir |
Powys ![]() |
Gwlad |
![]() |
Cyfesurynnau |
51.7711°N 3.5953°W ![]() |
![]() | |
Ceir tarddle'r afon yn y Fforest Fawr ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, ar lethrau dwyreiniol Fan Gyhirych. Mae'n llifo tua'r de am 12 km / 7 milltir, gydag afon Pyrddin yn ymuno a hi ger y Pwll Du ar Byrddin, cyn ymuno ag afon Mellte ger Pontneddfechan, i ffurfio afon Nedd.
Ceir nifer o raeadrau ar yr afon, yn cynnwys Sgŵd Ddwli a Sgŵd Pedol. Mae dyffryn yr afon yn rhan o Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig ac Ardal Gadwraeth Arbennig.