Afon yn ne Cymru yw Afon Mellte. Ffurfir yr afon pan mae Afon Llia ac Afon Dringarth yn ymuno, i'r gogledd o bentref Ystradfellte. Mae'n llifo tua'r de trwy Ystradfellte (Cyfeirnod OS: SN9313) i gyrraedd Pontneddfechan, lle mae'n ymuno ag Afon Nedd Fechan i ffurfio Afon Nedd.

Afon Mellte
Mathafon Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Ardal warchodolParc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog Edit this on Wikidata
SirPowys Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Uwch y môr149 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau51.75°N 3.58°W Edit this on Wikidata
AberAfon Nedd Edit this on Wikidata
LlednentyddAfon Hepste Edit this on Wikidata
Map
Sgŵd Clun-gwyn ar Afon Mellte

Llifa'r afon dan y ddaear am bellter o chwarter milltir ger Porth yr Ogof, wrth groesi calchfaen Garbonifferaidd. Mae wedi creu system eang a chymhleth o ogofâu yma. Ychydig yn is, mae'r afon yn disgyn dros gyfres o raeadrau; y mwyaf adnabyddus yw Sgŵd Clun-gwyn, Sgŵd Isaf Clun-gwyn a Sgŵd y Pannwr.

Mae'r rhan fwyaf o ddyffryn yr afon yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig, Dyffrynoedd Nedd a Mellte a Moel Penderyn, ac Ardal Gadwraeth Arbennig, Coedydd Nedd a Mellte.

Mae'n bosib mai disgrifiad o gyflymder yr afon sydd wrth wraidd ei henw 'mellt' neu o bosibl enw personol megis Bedwellte (Mellte). Ymddengys yr enw mewn llawysgrif yn gyntaf yn 1136.[1]

Cyfeiriadau

golygu
  1. Dictionary of Place-names gan Hywel Wyn Owen a Richard Morgan, Gwasg Gomer, 2008