Afon Oren
(Ailgyfeiriad o Afon Orange)
Afon yn Ne Affrica yw Afon Oren (Afrikaans: Oranjerivier, Saesneg: Orange River), weithiau hefyd afon Gariep. Hi yw afon hwyaf De Affrica, 1,860 km o hyd.
Math | afon |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Gwlad | De Affrica |
Uwch y môr | 1,400 metr |
Cyfesurynnau | 28.89661°S 29.01794°E, 28.6308°S 16.45°E |
Tarddiad | Drakensberg |
Aber | Cefnfor yr Iwerydd |
Llednentydd | Afon Malibamat'so, Afon Senqunyane, Makhaleng River, Afon Caledon, Afon Vaal, Afon Fish, Afon Molopo, Gamkabrivier, Afon Kraai, Tele |
Dalgylch | 973,000 cilometr sgwâr |
Hyd | 2,200 cilometr |
Arllwysiad | 800 metr ciwbic yr eiliad |
Llynnoedd | Vanderkloof Dam Reservoir |
Statws treftadaeth | safle Ramsar |
Manylion | |
Ceir tarddle'r afon ym mynyddoedd y Drakensberg, ar y ffn rhwng De Affrica a Lesotho. Llifa tua'r gorllewin, gan ffurfio'r ffin rhwng De Affrica a Namibia cyn cyrraedd Cefnfor Iwerydd. Y fwyaf o'r afonydd sy'n llifo i mewn iddi yw afon Vaal.
Defnyddir dŵr yr afon i ddyfrhau cnydau, ac mae argae y Gariepdam (gynt yr Hendrik Verwoerddam) a'r Vanderkloofdam yn casglu dŵr yn y tymor glawog i'w ddefnyddio i ddyfrhau yn y tymor sych.