Lesotho
Gwlad dirgaeedig yn Ne Affrica yw Lesotho, yn ffurfiol Teyrnas Lesotho. Fel clofan o fewn De Affrica, mae'n rhannu 1,106 cilometr (687 mi) o ffin â'r wlad honno,[1] dyma'r clofan sofran mwyaf yn y byd, a'r unig un y tu allan i Orynys yr Eidal. Fe'i lleolir ym Mynyddoedd Maloti ac mae'n cynnwys y copa uchaf yn Ne Affrica.[2] Mae ganddi arwynebedd o dros 30,000 metr sgwâr (12,000 milltir sgwâr) ac mae ganddi boblogaeth o tua dwy filiwn, 1.3 miliwn yn llai na Chymru yn 2024. Ei phrifddinas a'i dinas fwyaf yw Maseru. Mae'r wlad hefyd yn cael ei hadnabod wrth y llysenw Teynas y Myndydd.[3] Mae hi'n wlad annibynnol ers 1966.
Teyrnas Lesotho Naha ea Lesotho (Sesotho) | |
Arwyddair | Y Frenhiniaeth yn yr Awyr |
---|---|
Math | gwladwriaeth sofran, clofan, gwlad dirgaeedig, teyrnas, gwlad |
Enwyd ar ôl | Sesotho |
Prifddinas | Maseru |
Poblogaeth | 2,007,201 |
Sefydlwyd | 4 Hydref 1966 (Annibyniaeth oddi wrth Lloegr) |
Anthem | Lesotho Fatse La Bontata Rona |
Pennaeth llywodraeth | Sam Matekane |
Cylchfa amser | UTC+2, Africa/Maseru |
Gefeilldref/i | Gummersbach |
Iaith/Ieithoedd swyddogol | Saesneg, Sesotho |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | De Affrica |
Gwlad | Lesotho |
Arwynebedd | 30,355 ±1 km² |
Yn ffinio gyda | De Affrica |
Cyfesurynnau | 29.55°S 28.25°E |
Gwleidyddiaeth | |
Corff deddfwriaethol | Senedd Lesotho |
Swydd pennaeth y wladwriaeth | Brenin Lesotho |
Pennaeth y wladwriaeth | Letsie III, brenin Lesotho |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | Prif Weinidog Lesotho |
Pennaeth y Llywodraeth | Sam Matekane |
Ariannol | |
Cyfanswm CMC (GDP) | $2,373 million, $2,553 million |
Arian | Maloti, Rand De Affrica |
Canran y diwaith | 26 ±1 canran |
Cyfartaledd plant | 3.185 |
Mynegai Datblygiad Dynol | 0.514 |
Mae'r grŵp ethnig Sotho (a elwir hefyd yn Basotho), sef tarddiad enw'r wlad, yn 99.7% o gyfanswm ei phoblogaeth, sy'n ei gwneud yn un o'r poblogaethau mwyaf homogenaidd yn y byd o ran ethnigrwydd. Eu hiaith frodorol, Sesotho, yw'r iaith swyddogol ynghyd â Saesneg. Ystyr yr enw Lesotho yw "gwlad y siaradwyr Sesotho".[4][5]
Ffurfiwyd Lesotho ym 1824 gan y Brenin Moshoeshoe I. Fe wnaeth herio a thresmasu parhaus gan ymsefydlwyr o'r Iseldiroedd orfodi'r Brenin i ddod i gytundeb â'r Ymerodraeth Brydeinig (hynny yw, Lloegr) i ddod yn warchodwr ym 1868 ac yn 1884, yn drefedigaeth y goron. Enillodd annibyniaeth yn 1966, ac wedi hynny cafodd ei rheoli gan Blaid Genedlaethol Basotho (BNP) am ddau ddegawd. Adferwyd ei lywodraeth gyfansoddiadol yn 1993 ar ôl saith mlynedd o reolaeth filwrol. Alltudiwyd y Brenin Moshoeshoe II ym 1990 ond dychwelodd yn 1992 ac fe'i gwnaed yn frenin eto yn 1995. Flwyddyn yn ddiweddarach, bu farw Moshoeshoe II a chymerodd ei fab Letsie III yr orsedd; yn 2024 roedd yn dal yn ei swydd.[1] Mae Lesotho yn cydnabod Gwladwriaeth Palestina.
Ystyrir Lesotho yn wlad incwm canolig is gyda heriau economaidd-gymdeithasol sylweddol. Mae bron i hanner ei phoblogaeth o dan y llinell dlodi, a'r gyfradd o HIV/AIDS yn y wlad yw'r ail uchaf drwy'r byd. Fodd bynnag, mae hefyd yn targedu cyfradd uchel o addysg gynradd gyffredinol ac mae ganddi un o'r cyfraddau llythrennedd uchaf yn Affrica (81% yn 2021). Mae Lesotho yn aelod o'r Cenhedloedd Unedig, y Mudiad Heb Aliniad, y Gymanwlad y Cenhedloedd, yr Undeb Affricanaidd, a Chymuned Datblygu De Affrica. Yn ôl mynegeion Democratiaeth V-Dem 2023, mae Lesotho yn safle 64 o ran democratiaeth etholiadol ledled y byd ac yn 7fed democratiaeth etholiadol yn Affrica.[6]
Annibyniaeth
golyguEnillodd Basutoland ei hannibyniaeth oddi wrth y Deyrnas Unedig, a daeth yn 'Deyrnas Lesotho' yn 1966.[7] Roedd Plaid Genedlaethol Basotho (BNP) yn rheoli o 1966 tan Ionawr 1970. Yr hyn a ddilynodd yn ddiweddarach oedd llywodraeth de facto dan arweiniad Leabua Jonathan.
Gwleidyddiaeth
golyguBrenhiniaeth gyfansoddiadol seneddol yw Llywodraeth Lesotho. Y Prif Weinidog, Sam Matekane, yw pennaeth y llywodraeth ac mae ganddo awdurdod gweithredol. Brenin Lesotho, Letsie III, yw pennaeth y wladwriaeth ac mae ganddo "swyddogaeth seremonïol i raddau helaeth"; nid yw bellach yn meddu ar unrhyw awdurdod gweithredol ac mae wedi'i wahardd rhag cymryd rhan weithredol mewn mentrau gwleidyddol (yn debyg i Frenin Lloegr).
Cysylltiadau tramor
golyguYn wahanol i Gymru, mae gan Lesotho statws sofran, hynny yw, mae hi'n wlad annibynnol ac oherwydd hyn mae hi'n aelod o rai sefydliadau economaidd rhanbarthol a sefydliadau rhyngwladol, gan gynnwys Cymuned Ddatblygu De Affrica (SADC)[8] ac Undeb Tollau De Affrica (SACU).[9] Mae'n weithgar yn y Cenhedloedd Unedig, yr Undeb Affricanaidd(AU), y Mudiad Heb Aliniad(NAM), y Gymanwlad, a sefydliadau rhyngwladol eraill.[10]
Mae Lesotho wedi cynnal cysylltiadau â'r Chymru yn arbennig ers degawdau, yn ogystal â'r Almaen, yr Unol Daleithiau, a gwladwriaethau Gorllewinol eraill. Torrodd gysylltiadau â Tsieina ac ail-sefydlu cysylltiadau â Taiwan yn 1990, ond flynyddoedd wedyn fe wnaeth adfer ei chysylltiadau â Tsieina. Mae'n cydnabod Gwladwriaeth Palestina.[11] O 2014 hyd at 2018, roedd yn cydnabod Gweriniaeth Kosovo hefyd.[12]
Daearyddiaeth
golyguArwynebedd Lesotho yw 30,355 metr sgwâr (11,720). Hi yw'r unig wladwriaeth annibynnol yn y byd sy'n gorwedd yn gyfan gwbl uwchlaw 1,000 metr (3,281 tr) mewn drychiad (elevation). Ei phwynt isaf yw 1,400 metr (4,593 tr) o 1,400 metr (4,593 tr). Mae dros 80% o'r wlad yn gorwedd dros 1,800 metr (5,906 tr). Lesotho yw'r wlad dirgaeedig fwyaf deheuol yn y byd. Hi yw'r fwyaf o'r tair talaith annibynnol yn y byd sydd wedi'i hamgylchynu'n llwyr gan diriogaeth gwlad arall; y ddwy arall yw Dinas y Fatican a San Marino. Dyma'r unig wladwriaeth o'r fath y tu allan i benrhyn yr Eidal ac Ewrop, yn ogystal â'r unig un nad yw'n ficrowladwriaeth.
Gorwedd Lesotho rhwng lledred 28° a 31°De, a hydred o 27° a 30°Dw. Mae tua 12% o Lesotho'n dir âr (sy'n cael ei aredig), sy'n agored i erydiad pridd; amcangyfrifir bod 40 miliwn tunnell o bridd yn cael ei golli bob blwyddyn oherwydd erydiad.[13]
Hinsawdd
golyguOherwydd ei ddrychiad, mae Lesotho'n parhau i fod yn oerach trwy gydol y flwyddyn na rhanbarthau eraill ar yr un lledred. Mae'r rhan fwyaf o'r glaw yn disgyn fel stormydd mellt a tharanau yn yr haf. Gall Maseru a'r iseldiroedd cyfagos gyrraedd 30 °C (86 °F) yn yr haf. Gall y tymheredd yn yr iseldiroedd ostwng i −7 °C (19 °F) a'r ucheldiroedd i −18 °C (0 °F) ar adegau. Mae eira yn fwy cyffredin yn yr ucheldiroedd rhwng Mai a Medi; fe all fwrw eira ar y copaon uchel trwy gydol y flwyddyn.
Fe all y glawiad blynyddol amrywio o 500 mm yn flynyddol mewn un ardal hyd at 1,200 mm mewn un arall oherwydd drychiad.[13] Y man gwlypaf yng Nghymru yw'r Grib Goch, Eryri sy'n derbyn ar gyfartaledd 4,473 mm (176 modf) o law y flwyddyn. Yn ystod tymor yr haf, sy'n ymestyn o fis Hydref i fis Ebrill, gwelir y glawiad mwyaf, ac o fis Rhagfyr i fis Chwefror, mae mwyafrif y wlad yn derbyn dros 100 mm o law y mis.[13] Mae'r glawiad misol lleiaf yn Lesotho yn digwydd ym Mehefin pan fydd y rhan fwyaf o ranbarthau'n derbyn llai na 15 mm y mis.[13]
Sychder
golyguMae sychder achlysurol yn cael effaith ar boblogaeth Lesotho gan fod rhai pobl sy'n byw y tu allan i ardaloedd trefol yn dibynnu ar ffermio am eu cynhaliaeth neu elfennau o amaethyddiaeth ar raddfa fach fel eu prif ffynhonnell incwm.[14] Gwaethygir y sefyllfa gan rai arferion amaethyddol lleol.[15] Mae Llyfr Ffeithiau'r Byd yn rhestru sychder cyfnodol o dan yr adran 'Peryglon Naturiol' yn adran Lesotho o'r cyhoeddiad.[1]
Ym Mawrth 2019 cynhaliodd Pwyllgor Asesu a Dadansoddi Agored i Niwed Lesotho adroddiad a nododd bod angen cymorth dyngarol ar 487,857 o bobl yn y wlad oherwydd effeithiau sychder.[16]
Diwylliant
golyguMae bwyd Lesotho'n cynnwys traddodiadau Affricanaidd a dylanwadau Prydeinig.[17] Pryd cenedlaethol Lesotho yw Motoho, sef uwd sorghum wedi'i eplesu gan furum. Mae rhai o'r prif fwydydd yn cynnwys pap, neu 'prydau', uwd blawd India corn wedi'i orchuddio â saws sy'n cynnwys llysiau. Mae te a chwrw wedi'i fragu'n lleol hefyd ar gael: mae Lesotho'n enwog am ei gwrw sinsir wedi'i eplesu, a cheir dau fath, gyda rhesins a hebddynt. Mae Sishenyama yn cael ei werthu'n annibynnol yn Lesotho yn rheolaidd gyda phrydau ochr fel salad bresych, pap a ffa pob.[18]
Mae'r flanced Basotho, gorchudd a wnaed yn wreiddiol o wlân, yn rhan allweddol o'r wisg gendlaethol. Mae'r rhan fwyaf o'r flanced bellach wedi'i gwneud o ffibrau acrylig. Prif wneuthurwr y flanced Basotho yw Aranda, sydd â ffatri dros y ffin yn Ne Affrica.
Cynhelir Gŵyl Celfyddydau a Diwylliannol Morija yn flynyddol yn nhref Morija lle cyrhaeddodd cenhadon cynnar yn 1833.
Gwleidyddiaeth
golyguLlywodraeth seneddol neu frenhiniaeth gyfansoddiadol yw Llywodraeth Lesotho. Y Prif Weinidog, Pakalitha Bethuel Mosisili, yw pennaeth y llywodraeth a chanddo ef y mae awdurdod rheolaethol. Mae gan y brenin swyddogaeth seremonïol; bellach nid oes ganddo unrhyw awdurdod rheolaethol ac mae ef wedi ei wahardd rhag chwarae rhan weithredol mewn mentrau gwleidyddol.
Dolen allanol
golygu- Dolen Cymru Lesotho Archifwyd 2006-07-18 yn y Peiriant Wayback
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 1.2 "Africa :: Lesotho — The World Factbook - Central Intelligence Agency". www.cia.gov. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2 Gorffennaf 2021. Cyrchwyd 2019-12-16.
- ↑ "Maloti Mountains | Drakensberg, Lesotho Highlands, Southern Africa | Britannica". www.britannica.com (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 24 January 2022. Cyrchwyd 2024-03-01.
- ↑ "Office Of The King". Government Of Lesotho (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 12 Mawrth 2024. Cyrchwyd 2024-03-01.
- ↑ Nicole Itano (2007). No Place Left to Bury the Dead. Simon and Schuster. t. 314. ISBN 978-0-7432-7095-3.
- ↑ Roman Adrian Cybriwsky (2013). Capital Cities around the World: An Encyclopedia of Geography, History, and Culture. ABC-CLIO. t. 182. ISBN 9781610692489. Cyrchwyd 4 Mawrth 2018.
- ↑ V-Dem Institute (2023). "The V-Dem Dataset". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 8 Rhagfyr 2022. Cyrchwyd 14 October 2023.
- ↑ Karen Tranberg Hansen, Mariken Vaa (2004). Reconsidering Informality: Perspectives from Urban Africa. Nordic African Institute. t. 180. ISBN 91-7106-518-0.
- ↑ Lesotho Country profile.
- ↑ "Southern African Customs Union website". Sacu.int. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 3 Medi 2010. Cyrchwyd 4 Gorffennaf 2010.
- ↑ "The World Factbook — Central Intelligence Agency". www.cia.gov (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2 Gorffennaf 2021. Cyrchwyd 2017-09-20.
- ↑ "Lesotho US State department". state.gov. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2 October 2023. Cyrchwyd 4 Gorffennaf 2010.
- ↑ "Pas njohjes nga Lesoto, Hoxhaj vazhdon lobimin në Afrikë (After recognition of Lesotho, Hoxhaj continues lobbying in Africa)". Ministry of Foreign Affairs, Republic of Kosovo. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 29 Rhagfyr 2014. Cyrchwyd 12 Rhagfyr 2014.
- ↑ 13.0 13.1 13.2 13.3 "Lesotho Meteorological Services". www.lesmet.org.ls. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 17 Gorffennaf 2015. Cyrchwyd 2019-12-16.
- ↑ Elgoni, A. G.; Ntsike, M.; Matji, M. (1997). "Quality of Life under Drought Conditions. A Case Study of Children in Lesotho". Quality of Life Research 6 (5): 456.
- ↑ "LESOTHO: Severe Drought". Africa Research Bulletin: Economic, Financial and Technical Series 44 (6). 2007.
- ↑ "Lesotho: Drought Situation Update 01 (as of 2 Mai 2019) - Lesotho". ReliefWeb (yn Saesneg). 3 Mai 2019. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 16 Mawrth 2020. Cyrchwyd 2019-12-16.
- ↑ "Lesotho: British influence meets African tradition". foodspring. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 17 February 2015. Cyrchwyd 2014-04-01.
- ↑ "Ethnic Food of Lesotho". USA Today. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 10 Mawrth 2018. Cyrchwyd 1 Mawrth 2018.