Afon yn Ne Affrica yw Afon Oren (Afrikaans: Oranjerivier, Saesneg: Orange River), weithiau hefyd afon Gariep. Hi yw afon hwyaf De Affrica, 1,860 km o hyd.

Afon Oren
Mathafon Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
GwladBaner De Affrica De Affrica
Cyfesurynnau28.89661°S 29.01794°E, 28.6308°S 16.45°E Edit this on Wikidata
TarddiadDrakensberg Edit this on Wikidata
AberCefnfor yr Iwerydd Edit this on Wikidata
LlednentyddAfon Malibamat'so, Afon Senqunyane, Makhaleng River, Afon Caledon, Afon Vaal, Afon Fish, Afon Molopo, Gamkabrivier, Afon Kraai, Tele Edit this on Wikidata
Dalgylch973,000 cilometr sgwâr Edit this on Wikidata
Hyd2,200 cilometr Edit this on Wikidata
Arllwysiad800 metr ciwbic yr eiliad Edit this on Wikidata
LlynnoeddVanderkloof Dam Reservoir Edit this on Wikidata
Map
Statws treftadaethsafle Ramsar Edit this on Wikidata
Manylion
Cwrs a dalgylch afon Oren

Ceir tarddle'r afon ym mynyddoedd y Drakensberg, ar y ffîn rhwng De Affrica a Lesotho. Llifa tua'r gorllewin, gan ffurfio'r ffîn rhwng De Affrica a Namibia cyn cyrraedd Cefnfor Iwerydd. Y fwyaf o'r afonydd sy'n llifo i mewn iddi yw afon Vaal.

Defnyddir dŵr yr afon i ddyfrhau cnydau, ac mae argae y Gariepdam (gynt yr Hendrik Verwoerddam) a'r Vanderkloofdam yn casglu dŵr yn y tymor glawog i'w ddefnyddio i ddyfrhau yn y tymor sych.