Afon Orontes
Afon fawr yn y Lefant yw Afon Orontes.
![]() | |
Math |
afon ![]() |
---|---|
| |
Daearyddiaeth | |
Gwlad |
Twrci, Syria, Libanus ![]() |
Cyfesurynnau |
35.25°N 36.5833°E, 34.1969°N 36.3525°E, 36.0453°N 35.9636°E ![]() |
Aber |
Y Môr Canoldir ![]() |
Llednentydd |
Afon Afrin ![]() |
Dalgylch |
23,000 cilometr sgwâr ![]() |
Hyd |
571 cilometr ![]() |
Arllwysiad |
30 ±0.001 metr ciwbic yr eiliad ![]() |
![]() | |
Cyfyd yr afon ym mhen dwyreiniol Dyffryn Beka'a yng ngogledd-ddwyrain Libanus. Am y rhan fwyaf o'i chwrs 370 km (230 milltir) rhed Afon Orontes drwy wastadeddau canolbarth a gogledd-orllewin Syria ar gwrs gogleddol cyn troi'n sydyn i'r de-orllewin i redeg i'r Môr Canoldir yn Antakya, Twrci (Antioch-ar-Orontes y Beibl).
Ar ei thaith trwy Syria mae'r afon yn llifo trwy neu heibio dinasoedd Homs, Hama (lle ceir olwynion anferth o gyfnod y Rhufeiniaid yn troi ei dŵr) a Jisr.
Er nad yw'n afon fawr mewn cymhariaeth ag afonydd mawr rhannau eraill o Asia neu Ewrop, mae'r Orontes yn holl-bwysig i economi Syria am ei bod yn gyflenwad dŵr dibyniadwy ar gyfer amaethyddiaeth rhan helaeth o ganolbarth y wlad a hefyd i ddinasoedd cyfagos.