Lefant
Y Lefant (o'r gair Ffrangeg Levant; "lle gwawria'r haul") yw'r enw traddodiadol ar yr ardal ar arfordir dwyreiniol y Môr Canoldir sy'n cael ei chynnwys heddiw yng ngwladwriaethau Twrci (cornel dde-ddwyreiniol y wlad), Syria (ac eithrio'r rhannau dwyreiniol), Libanus ac Israel. Fe'i gelwir hefyd "y Dwyrain Agos" ac mae'r Sinai a rhannau o Wlad Iorddonen yn cael eu cynnwys yn yr ardal weithiau yn ogystal.
Math |
rhanbarth, ardal ddiwylliannol ![]() |
---|---|
| |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol |
De-orllewin Asia ![]() |
Gerllaw |
Môr y Lefant ![]() |
Cyfesurynnau |
34°N 36°E ![]() |
![]() | |
Gelwid Syria a Libanus dan reolaeth mandad Ffrainc "Taleithiau'r Lefant" ac mewn rhai llyfrau cyfyngir y term 'Lefant' i Libanus a gorllewin Syria.