Afon Po
Mae Afon Po (Lladin: Padus) yn afon sy'n tarddu ger Monviso yn yr Alpau Cottaidd ac yn llifo am 652 km (405 milltir) i'r dwyrain ar hyd gogledd yr Eidal. Mae'n cyrraedd y Môr Adriatig gerllaw Fenis. Afon Po yw'r afon hwyaf yn yr Eidal, ac mae ei dalgylch yn 71,000 km².
Math | afon |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Piemonte, Lombardia, Emilia-Romagna, Veneto |
Gwlad | yr Eidal |
Cyfesurynnau | 44.70144°N 7.09306°E, 44.97°N 12.5469°E |
Tarddiad | Pian del Re |
Aber | Môr Adria |
Llednentydd | Dora Baltea, Adda, Oglio, Mincio, Tanaro, Pellice, Sangone, Dora Riparia, Stura di Lanzo, Orco, Sesia, Agogna, Afon Ticino, Olona Inferiore, Lambro, Scrivia, Trebbia, Taro, Parma (river), Enza, Secchia, Panaro, Ghiandone, Chiavenna, Arda, Maira, Versa, Grana del Monferrato, Rotaldo, Scuropasso, Stura del Monferrato, Nure, Varaita, Crostolo, Staffora, Malone, Banna, Terdoppio, Curone, Chisola, Q2996825, Tepice, Tidone, Colatore Agognetta, Q3862842, Meletta, Torrente Leona, Rio di Valle Maggiore, Oglio |
Dalgylch | 74,000 cilometr sgwâr |
Hyd | 652 ±1 cilometr |
Arllwysiad | 1,460 metr ciwbic yr eiliad |
Mae'r afon yn llifo trwy nifer o ddinasoedd a threfi pwysig, yn cynnwys Torino, ac mae wedi ei chysylltu a Milan trwy rwydwaith o sianeli a elwir yn navigli. Bu gan Leonardo da Vinci ran yn y gwaith o gynllunio'r rhain. Cyn i'r afon gyrraedd y môr, mae'n ffurfio delta sylweddol, gyda llawr o sianeli bach a pump mawr: Po di Maestra, Po della Pila, Po delle Tolle, Po di Gnocca a Po di Goro.
Yn y cyfnod Rhufeinig gelwid dyffryn Afon Po yn Gallia Cisalpina, oedd yn cael ei rannu yn Gallia Cispadana i'r de o'r afon a Gallia Transpadana i'r gogledd. Heddiw gelwir dyffryn Afon Po yn Pianura Padana. Mae'r afon dan reolaeth awdurdod arbennig, y Magistrato delle Acque.