Rhufain hynafol
Datblygodd yr hen Rufain (hefyd Rhufain yr henfyd, hen ddinas Rhufain, Rhufain gynt) o fod yn bentref amaethyddol ger glan Afon Tiber yng nghanolbarth yr Eidal i fod yn ymerodraeth oedd yn ymestyn o'r Alban i Ogledd Affrica ac o Sbaen i Mesopotamia. O'r 5g ymlaen, dechreuodd yr ymerodraeth ddadfeilio, ac ymrannodd Ymerodraeth Rufeinig y Gorllewin yn nifer o deyrnasoedd annibynnol. Parhaodd Ymerodraeth Rufeinig y Dwyrain, a reolid o Gaergystennin am ganrifoedd lawer ar ôl hyn, dan yr enw Yr Ymerodraeth Fysantaidd.
Hanes
golyguGellir rhannu hanes Rhufain yn nifer o gyfnodau.
Teyrnas Rhufain
golygu- Prif erthygl Teyrnas Rhufain
Yn ôl traddodiad, sefydlwyd Rhufain ar 21 Ebrill, 753 CC gan Romulus a Remus, disgynyddion Aeneas o Gaerdroea. Roedd brenin Alba Longa wedi gorchymyn eu bod i'w lladd, ond achubwyd hwy gan fleiddiast.
Tyfodd y ddinas yn raddol o sefydliadau buchain o gwmpas rhyd dros Afon Tiber. Bu cyfres o frenhinoedd ar Rufain, hyd nes i'r brenin olaf, Lucius Tarquinius Superbus, gael ei ddiorseddu a'i alltudio tua 509 CC.
Gweriniaeth Rhufain
golygu- Prif erthygl: Gweriniaeth Rhufain
Wedi diorseddu Tarquinius Superbus, sefydlwyd system weriniaethol, gyda dau gonswl yn cael eu hethol bob blwyddyn, fel na allai yr un ohonynt fynd yn rhy bwerus.
Yn raddol, concrodd y Rhufeiniaid drigolion eraill yr Eidal, megis yr Etrwsciaid. Yn ail hanner y 3 CC, dechreuodd y cyntaf o dri rhyfel yn erbyn dinas Carthago yng ngogledd Affrica. Yn ystod yr ail o'r rhyfeloedd hyn, ymosododd Hannibal ar yr Eidal a gorchfygu'r Rhufeiniaid mewn nifer o frwydrau gyda cholledion enbyd, ond yn y diwedd gorchfygwyd yntau gan Scipio Africanus. wedi gorchfygu Macedonia yn yr 2 CC, Rhufain oedd y grym mwyaf o gwmpas Môr y Canoldir.
Datblygodd terfysgoedd mewnol yn ystod y Ganrif 1af CC, gydag ymryson rhwng Gaius Marius a Lucius Cornelius Sulla, yna gytundeb i rannu grym rhwng Iŵl Cesar, Gnaeus Pompeius Magnus a Marcus Licinius Crassus. Wedi i Cesar goncro Gâl, bu rhyfel cartref, gyda Cesar yn gorchfygu Pompeius i gipio grym. Yn 44 CC llofruddiwyd ef gan aelodau o'r senedd oedd yn credu ei fod yn mynd yn rhy bwerus.
Yr Ymerodraeth Rufeinig
golygu- Prif erthygl: Yr Ymerodraeth Rufeinig
Yr Ymerodraeth Rufeinig oedd y cyfnod yn hanes y wladwriaeth Rufeinig a ddilynodd y Weriniaeth Rufeinig ac a barhaodd hyd y 5g OC yn y gorllewin, ac fel yr Ymerodraeth Fysantaidd hyd 1453 yn y dwyrain. Yn wahanol i'r Weriniaeth, lle'r oedd yr awdurdod yn nwylo Senedd Rhufain, llywodraethid yr ymerodraeth gan gyfres o ymerodron, gyda'r Senedd yn gymharol ddi-rym. Awgrymwyd nifer o ddyddiadau gan haneswyr ar gyfer diwedd y weriniaeth a dechrau'r ymerodraeth; er enghraifft dyddiad apwyntio Iŵl Cesar fel dictator am oes yn 44 CC, buddugoliaeth etifedd Cesar, Octavianus ym Mrwydr Actium yn 31 CC, a'r dyddiad y rhoddodd y Senedd y teitl "Augustus" i Octavianus (16 Ionawr, 27 CC).
Roedd Rhufain eisoes wedi meddiannu tiriogaethau helaeth yng nghyfnod y Weriniaeth; daeth yn feistr ar ran o Sbaen yn dilyn ei buddugoliaeth yn y rhyfel cyntaf yn erbyn Carthago, a dilynwyd hyn gan diriogaethau eraill. Cyrhaeddodd yr ymerodraeth ei maint mwyaf yn ystod teyrnasiad Trajan tua 177. Yr adeg honno roedd yr ymerodraeth yn ymestyn dros tua 5,900,000 km² (2,300,000 milltir sgwar) o dir.
Thannwyd yr ymerodraeth yn ddwy ran, yn y gorllewin a'r dwyrain, fel rhan o ddiwygiadau yr ymerawdwr Diocletian. Daeth yr ymerodraeth Rufeinig yn y gorllewin i ben yn 476 pan ddiorseddwyd yr ymerawdwr olaf, Romulus Augustus. Parhaodd yr ymerodraeth yn y dwyrain am bron fil o flynyddoedd wedi hyn fel yr Ymerodraeth Fysantaidd. Cafodd yr ymerodraeth Rufeinig ddylanwad enfawr ar y byd, o ran iaith, crefydd, pensaerniaeth, athroniaeth, cyfraith a llywodraeth; dylanead sy'n parhau hyd heddiw.
Rhufain hynafol | |
---|---|
Teyrnas Rhufain | Gweriniaeth Rhufain | Yr Ymerodraeth Rufeinig | Senedd Rhufain | Conswl Rhufeinig |