Emilia-Romagna
Rhanbarth yng ngogledd yr Eidal yw Emilia-Romagna. Bologna yw'r brifddinas; dinasoedd pwysig eraill yw Modena, Parma, Reggio Emilia, Ravenna a Rimini.
![]() | |
![]() | |
Math |
rhanbarthau'r Eidal ![]() |
---|---|
| |
Prifddinas |
Metropolitan City of Bologna ![]() |
Poblogaeth |
4,459,477 ![]() |
Pennaeth llywodraeth |
Stefano Bonaccini ![]() |
Gefeilldref/i |
Hessen, Ibaraki ![]() |
Daearyddiaeth | |
Sir |
Yr Eidal ![]() |
Gwlad |
![]() |
Arwynebedd |
22,123.09 km² ![]() |
Uwch y môr |
211 metr ![]() |
Yn ffinio gyda |
Veneto, Lombardia, Piemonte, Liguria, Toscana, Marche ![]() |
Cyfesurynnau |
44.75°N 11°E ![]() |
IT-45 ![]() | |
Gwleidyddiaeth | |
Corff gweithredol |
Government of Emilia-Romagna ![]() |
Corff deddfwriaethol |
Legislative Assembly of Emilia-Romagna ![]() |
Swydd pennaeth y Llywodraeth |
president of Emilia-Romagna ![]() |
Pennaeth y Llywodraeth |
Stefano Bonaccini ![]() |
![]() | |
Mynegai Datblygiad Dynol |
0.909 ![]() |
Saif Emilia-Romagna rhwng y Môr Adriatig yn y dwyrain, afon Po yn y gogledd a mynyddoedd yr Appenninau yn y de. Ffurfiwyd y rhanbarth trwy uno rhanbarthau hanesyddol Emilia a Romagna. Caiff Emilia ei henw o'r via Æmilia, y ffordd Rufeinig o Rufain i ogledd yr Eidal.
Rhennir y rhanbarth yn naw talaith: Bologna, Ferrara, Forlì-Cesena, Modena, Parma, Piacenza, Ravenna, Reggio Emilia a Rimini. Amaethyddiaeth a'r diwydiant bwyd yw'r elfen bwysicaf yn yr economi, gyda diwydiannau bwyd yn Parma a Bologna. Mae'r diwydiant ceir yn bwysig hefyd, gyda Ferrari, Ducati, Lamborghini a Maserati yn cael eu cynrychioli yma. Mae mentrau cydweithredol yn arbennig o gyffredin yn Emilia-Romagna, ac mae'r chwith yn gryf yma yn wleidyddol.
Yng Nghyfrifiad 2011 roedd gan y rhanbarth boblogaeth o 4,342,135.[1]
CyfeiriadauGolygu
- ↑ City Population; adalwyd 23 Rhagfyr 2020