Mae'r Alpau Cottaidd (Ffrangeg: Alpes Cottiennes; Eidaleg: Alpi Cozie) yn fynyddoedd yn rhan dde-orllewinol yr Alpau, sydd yn ffurfio'r ffin rhwng Hautes-Alpes a Savoie yn Ffrainc a Piedmont yn yr Eidal. Mae Bwlch Maddalena yn eu gwahanu oddi wrth yr Alpau Morol a'r Col du Mont Cenis yn eu gwahanu oddi wrth yr Alpau Graiaidd. Mae twneli ffordd a rheilffordd Fréjus yn gysylltiad pwysig rhwng Lyon a Grenoble yn Ffrainc a Torino yn yr Eidal.

Alpau Cottaidd
MathAlpine section Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolSouthwestern Alps Edit this on Wikidata
SirPiemonte, Rhône-Alpes, Provence-Alpes-Côte d'Azur Edit this on Wikidata
GwladBaner Ffrainc Ffrainc
Baner Yr Eidal Yr Eidal
Cyfesurynnau44.6452°N 7.0917°E Edit this on Wikidata
Hyd80 cilometr Edit this on Wikidata
Cadwyn fynyddWestern Alps Edit this on Wikidata
Map
Deunyddcraig fetamorffig Edit this on Wikidata

Mae Afon Durance ac Afon Arc yn tarddu o ochr Ffrainc, a'r Dora Riparia ac afonydd eraill sy'n llifo i mewn i Afon Po yn tarddu ar yr ochr Eidalaidd. Roedd yr ardal yn dalaith Rufeinig gyda'r enw Alpes Cottiae. Daw'r enw o enw Cottius, brenin un o lwythau y Liguriaid, oedd yn frenin y diriogaeth dan nawdd Rhufain.

Copaon golygu

Copaon uchaf yr Alpau Cottaidd yw:

Copa Uchder (m/troedfeddi)
Monte Viso 3841 12,609
Viso di Vallante 3672 12,048
Aiguille de Scolette 3505 11,500
Aiguille de Chambeyron 3412 11,155
Bric de Chambeyron 3388 11,116
Pic de la Font Sancte 3387 11,112
Rognosa d'Etache 3385 11,106
Dents d'Ambin 3382 11,096
Punta Ferrant 3364 11,037
Visolotto 3353 11,001