Afon Rubicon
Afon fechan a ddynodai ffin ogleddol Yr Eidal dan yr Ymerodraeth Rufeinig oedd Afon Rubicon (Eidaleg diweddar: Rugon). Roedd yn gorwedd rhwng Gallia Cisalpina, y diriogaeth Geltaidd i'r gogledd, a'r Eidal ei hun.
Math | afon |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Savignano sul Rubicone |
Gwlad | yr Eidal |
Cyfesurynnau | 44.168045°N 12.44327°E |
Tarddiad | Sogliano al Rubicone |
Aber | Môr Adria |
Hyd | 35 cilometr |
Arllwysiad | 6.6 ±0.001 metr ciwbic yr eiliad |
Statws treftadaeth | ased diwylliannol yr Eidal |
Manylion | |
Mae'r afon yn tarddu ym mynyddoedd yr Apenninau ac yn llifo ar gwrs dwyreiniol i aberu ym Môr Adria. Gard y Praetoriwm oedd yr unig filwyr oedd a hawl i fod yn arfog i'r de o Afon Rubicon.
Trwy ei chroesi, ac felly'n mynd yn erbyn cyhoeddiadau Senedd Rhufain, cyhoeddodd Iŵl Cesar ryfel yn erbyn Pompey a'i bleidwyr. Am hynny daeth yr ymadrodd 'croesi'r Rubicon' yn ddihareb am weithred na ellir ei dadwneud.
Ceir cyfeiriadau at Afon Rubicon yng ngwaith yr awduron Clasurol Lucan, Pliny'r Ieuengaf a Strabo.
Ffynhonnell
golygu- J. Lempriere, A Classical Dictionary (Llundain, d.d.)