Gnaeus Pompeius Magnus

cadfridog a gwleidydd Rhufeinig (106–48 CC)
(Ailgyfeiriad o Pompey)

Cadfridog a gwleidydd Rhufeinig oedd Gnaeus (neu Cnaeus) Pompeius Magnus (29 Medi 106 CC28 Medi 48 CC).

Gnaeus Pompeius Magnus
Ganwyd29 Medi 106 CC Edit this on Wikidata
Picenum Edit this on Wikidata
Bu farw28 Medi 48 CC Edit this on Wikidata
o clwyf drwy stabio Edit this on Wikidata
Pelusium Edit this on Wikidata
DinasyddiaethRhufain hynafol Edit this on Wikidata
Galwedigaethgwleidydd hynafol, Rhufeinig, milwr Rhufeinig, gwleidydd Edit this on Wikidata
SwyddPraetor, quaestor, seneddwr Rhufeinig, Conswl Rhufeinig, moneyer, moneyer Edit this on Wikidata
Plaid Wleidyddoloptimates Edit this on Wikidata
TadPompeius Strabo Edit this on Wikidata
MamLucilia Edit this on Wikidata
PriodAntistia, Aemilia Scaura, Mucia Tertia, Iulia, Cornelia Metella Edit this on Wikidata
PlantGnaeus Pompeius, Sextus Pompey, Pompeia Magna, Pompeius/Pompeia Edit this on Wikidata

Ganed ef Picenum, lle roedd ei dad, Pompeius Strabo, yn ŵr cyfoethog ond heb fod yn aelod o'r hen deuluoedd oedd yn amlwg yng ngwleidyddiaeth Rhufain. Er hynny daeth ei dad yn gonswl yn 89 CC.

Bu farw Pompeius Strabo yn 87 CC, yn ystod yr ymryson rhwng Gaius Marius a Lucius Cornelius Sulla. Pan ddaeth y newyddion yn 84 CC fod Sulla ar fin dychwelyd i'r Eidal wedi'r rhyfel yn erbyn Mithridates, brenin Pontus, cododd Pompeius fyddin o dair lleng yn Picenum i'w gefnogi. Enillodd ffafr Sulla, a'i perswadiodd i ysgaru ei wraig i briodi Aemilia Scaura, llysferch Sulla. Dangosodd Pompeius ei hun yn gadfridog galloug yn y rhyfeloedd hyn, yn yr Eidal ac yna yn ymladd yn erbyn cefnogwyr Marius yng Ngogledd Affrica a Sicilia. Cipiodd Sicilia yn 82 CC.

Yn 77 CC gadawodd yr Eidal am Sbaen i ymuno â Quintus Metellus Pius yn erbyn Quintus Sertorius, un arall o gefnogwyr Marius. Ni chafodd lawer o lwyddiant ar y cychwyn; roedd Sertorius yn elyn anodd ei orchfygu. Fodd bynnag yn 72 CC llofruddiwyd Sertorius gan un o'i swyddogion ei hun, Marcus Perperna Vento, a gallodd Pompeius orchfygu Perperna y flwyddyn ddilynol i ddod a'r rhyfel yn Sbaen i ben.

Dychwelodd Pompeius a'i fyddin i'r Eidal yn 71 CC. Roedd Crassus yn ymladd yn erbyn y caethweision dan arweiniaid Spartacus, ac newydd eu gorchfygu mewn brwydr fawr. Daeth Pompeius a'i fyddin ar draws gweddillion o fyddin Spartacus a'u gorchfgu, ac yna hawlio ei fod wedi rhoi diwedd ar y rhyfel, gan ennyn cynddaredd Crassus.

Yn 67 CC, rhoddwyd iddo'r dasg o ddelio a'r môr-ladron oedd wedi dod yn bla ym Môr y Canoldir. Gwnaeth hyn yn llwyddiannus dros ben. Yn 66 CC penodwyd ef i olynu Lucius Licinius Lucullus fel cadfridog y fyddin oedd yn ymladd yn erbyn Mithridates. Gorffennodd Pompeius y rhyfel yn llwyddiannus, gan orchfygu Mithridates a'i fab-yng-nghyfraith Tigranes Fawr, brenin Armenia, a chipio Tigranocerta, prifddinas Armenia. Fodd bynnag, haerai Lucullus ei fod ef eisoes wedi gorchfygu Mithridates, a bod Pompeius yn cymryd y clod. Cipiodd Syria yn 64 CC, ac erbyn 62 CC roedd Pompeius rhoi tiriogaethau eang dan reolaeth Rhufain, gan gynnwys cipio Jeriwsalem.

Daeth Pompeius i gytundeb a Iŵl Cesar a Crassus i rannu grym, a phriododd Pompeius ferch Cesar, Julia. Bu farw Julia wrth eni plentyn yn 54 CC, ac yn ddiweddarch y flwyddyn honno, lladdwyd Crassus gan y Parthiaid. Yn 52 CC priododd Pompeius Cornelia Metella, merch Quintus Caecilius Metellus Scipio, un o elynion pennaf Cesar. Cyn hir aeth yn rhyfel rhwng Pompeius a Cesar. Pan groesodd Cesar Afon Rubicon yn 49 CC, enciliodd Pompeius i Brundisium cyn croesi i Wlad Groeg. Croesodd Ceasr a'i fyddin ar ei ôl. Gorchfygwyd Pompeius gan Cesar ym Mrwydr Pharsalus yn 48 CC, a ffodd i'r Aifft. Pan gyrhaeddodd yno, llofruddiwyd ef ar orchymyn y brenin Ptolemi XIII.