Afon Volta
Afon yng ngorllewin Affrica sy'n aberu yng Ngwlff Gini yw Afon Volta. Fe'i hymrennir yn dair cangen, sef Afon Volta Ddu, Afon Volta Wen ac Afon Volta Coch. Roedd yr afon yn rhoi ei henw i Volta Uchaf cyn iddi gael ei hailewni'n Bwrcina Ffaso yn 1984.
Pont Adome ar Afon Volta i'r de o Argae Akosombo Dam | |
Math | afon |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Gwlad | Ghana, Bwrcina Ffaso |
Cyfesurynnau | 8.648741°N 0.982618°W, 5.7711°N 0.6731°E |
Aber | Gwlff Gini |
Llednentydd | Afon Daka, Black Volta, Todzie River |
Dalgylch | 388,000 cilometr sgwâr |
Hyd | 1,500 cilometr |
Arllwysiad | 1,288 metr ciwbic yr eiliad |
Llynnoedd | Llyn Volta |
Llyn Volta yn Ghana yw'r llyn artiffisial mwyaf yn y byd, sy'n ymestyn o Argae Akosombo yn ne-ddwyrain Ghana i dref Yapei, 1500 km (938 milltir) i'r gorllewin. Mae'r llyn hir cul yn cynhyrchu trydan, yn gyfrwng cludiant dŵr, ac yn cynnig posibiliadau i ddatblygu'r economi trwy greu ffermydd pysgod a dyfrhau'r tir amgylchol.
O lannau Afon Volta y cafodd y Portiwgalwyr lawer o'u aur yng nghyfnod y Dadeni.
Dolenni allanol
golygu(Saesneg) *Awdurdod Afon Volta Archifwyd 2012-05-30 yn y Peiriant Wayback