Afon Ganga
Mae Afon Ganga[1] (hefyd Ganges) yn afon fawr yng ngogledd India. Mae'n tarddu, dan yr enw Afon Bhagirathi, o rewlif Gangotri ym mynyddoedd yr Himalaya, ac yn uno ag Afon Alaknanda gerllaw Deoprayag i ffurfio'r Ganga.
![]() | |
Math |
afon ![]() |
---|---|
Enwyd ar ôl |
Ganga ![]() |
![]() | |
Daearyddiaeth | |
Sir |
India, Bangladesh ![]() |
Gwlad |
![]() |
Uwch y môr |
9 metr ![]() |
Cyfesurynnau |
22.0833°N 90.8333°E, 30.1451°N 78.5974°E ![]() |
Tarddiad |
Gangotri Glacier ![]() |
Aber |
Ganges Delta ![]() |
Llednentydd |
Afon Varuna, Afon Tamsa, Ramganga, Afon Gomti, Afon Ghaghara, Gandak, Afon Kosi, Afon Mahananda, Afon Yamuna, Afon Son, Afon Bhagirathi, Afon Gandaki, Afon Padma, Afon Alaknanda, Afon Karmanasa, Sarayu, Afon Yarlung Tsangpo, Afon Burhi Gandak, Afon Punpun, Rāmgangā River ![]() |
Dalgylch |
1,060,000 cilometr sgwâr ![]() |
Hyd |
2,525 cilometr ![]() |
Arllwysiad |
12,000 metr ciwbic yr eiliad ![]() |
![]() | |
Mae'r Ganga yn llifo tua'r dwyrain ar draws gogledd India cyn cyrraedd y môr ym Mae Bengal. Cyn cyrraedd y môr mae'n ymhahanu i nifer o afonydd llai, yn cynnwys Afon Hoogli ger Calcutta. ac Afon Padma, sy'n llifo trwy Bangladesh. Mae'r gair Ganga yn golygu "afon" yn yr iaith Hindi.
O gwmpas glannau'r afon, sy'n 2,507 km o hyd, ceir tir ffrwythlon sy'n gallu cynnal poblogaeth fawr. Yn 2005), amcangyfrifid fod 8% o boblogaeth y byd yn byw yn nalgylch y Ganga. Yn yr afon ceir dau rywogaeth o ddolffin sy'n unigryw iddi.
Ystyrir y Ganga yn afon sanctaidd mewn Hindwaeth, a chaiff ei chynyrchioli gan y dduwies Maa Ganga (mam Ganga). Ceir nifer o leoedd sanctaidd ar lannau'r afon, yn cynnwys Varanasi a Haridwar. Dywedir fod ymdrochi unwaith yn yr afon yn dileu un pechod. Wedi llosgi corff marw, mae rhoi'r lludw yn y Ganga yn fodd i osgoi cylch ad-eni.
Yn y blynyddoedd diwethaf mae llygredd yn yr afon wedi datblygu'b broblem fawr, yn rhannol oherwydd fod cymaint o lwch dynol, a chyrff heb eu llosgi, yn cael eu rhoi yn yr afon.
CyfeiriadauGolygu
- ↑ Jones, Gareth (gol.). Yr Atlas Cymraeg Newydd (Collins-Longman, 1999), t. 97.