Agnes Mason
Roedd Agnes Mason (10 Awst 1849 - 19 Rhagfyr 1941), yn lleian o dras Seisnig a anwyd yng Nghymru. Roedd yn nodedig fel sylfaenydd yr urdd grefyddol Anglicanaidd, Cymuned y Teulu Sanctaidd.[1]
Agnes Mason | |
---|---|
Ganwyd | 10 Awst 1849 Treflan Lacharn |
Bu farw | 19 Rhagfyr 1941 Holmhurst St Mary's School |
Dinasyddiaeth | Lloegr |
Alma mater | |
Galwedigaeth | lleian |
Tad | George William Mason |
Teulu ac addysg
golyguGanwyd Mason yn nhŷ ei thad-cu Joseph George Mitford, sef y Persondy, Talacharn, Sir Gaerfyrddin ym 1849. Roedd hi'n ferch i George William Mason o Morton Hall yn Swydd Nottingham a Marianne Atherton (née Mitford). O oedran ifanc iawn roedd saith plentyn Gorge a Marianne Mason wedi eu trwytho yng ngwaith elusennol a dyngarol Eglwys Loegr. Mewn cyfweliad ag un o gylchgronau Llundain The Queen mae chwaer Agnes, Harriet, yn dweud ""Does gen i ddim cof o gwbl o fy ymweliad cyntaf â thloty, na'r amser pan ddechreuais i ymddiddori yn y tlawd am y tro cyntaf".[2] Roedd Harriet yn arolygydd Cyfraith y Tlodion ac yn ddarlunydd botanegol.[3] Roedd ei brawd hynaf William Henry Mason yn aelod amlwg ac yn ddarlithydd dros Sefydliad Amddiffyn yr Eglwys.[4] Roedd brawd arall, Arthur James Mason, yn Athro Diwinyddiaeth yng Nghaergrawnt[5] ac roedd ei chwaer Harriet yn arolygydd Cyfraith y Tlodion ac yn ddarlunydd botanegol. Roedd brawd arall, George Edward Mason, yn offeiriad amlwg yn Eglwys Loegr[6] ac yn ddiweddarach yn brifathro coleg diwinyddol yn y Transkei (Coleg y Trawsnewidiad yn Ne Affrica bellach). Un o swyddi cyntaf y Parch Edward Mason oedd gwasanaethu fel rheithor plwyf Whitwell, Swydd Derby. Rhwng 1876 and 1883 bu Agnes yn cynorthwyo ei brawd gyda gwaith cymdeithasol ac addysgol y plwyf.
Ym 1883 aeth i Goleg Newnham, Caergrawnt, gan raddio yn y gwyddorau moesol gydag anrhydedd ail ddosbarth ym 1886.
Gyrfa
golyguRhwng 1886 a 1888) bu’n darlithio mewn gwyddoniaeth feddyliol a moesol yng Ngholeg Bedford, Llundain, ac yna bu’n dysgu’n breifat yn Llundain tan 1892. Gwasanaethodd fel ysgrifennydd i Urdd yr Ystwyll, a sefydlwyd gan y Canon Francis Holland ar gyfer dysgeidiaeth grefyddol, o 1887 hyd 1895 pan ymddiswyddodd er mwyn sefydlu Cymuned y Teulu Sanctaidd. Dechreuodd y Gymuned Anglicanaidd gyda chymorth sawl cefnogwr. Ei chefnogwyr oedd Charles Gore, Esgob Rhydychen; Walter Frere, Esgob Truro; William Collins, Esgob Gibraltar; George Congreve o Gymdeithas Sant Ioan yr Efengylwr; Charles Lindley Wood, 2il Is-iarll Halifax, llywydd Undeb Eglwys Loegr; a'r diwinydd Catholig Rhufeinig Baron von Hügel.
Roedd Frederick Temple, Archesgob Caergaint, yn un arall o’i chefnogwyr a defnyddiodd ei awdurdod i’w sefydlu yn Uchel Fam y grŵp newydd hwn. Arhosodd y gymuned yn fach ond sefydlodd leoliadau addysgu yn Llundain, St Leonards-on-Sea, Leeds, a Chaergrawnt, ac yn India yng Ngholeg yr Holl Saint, Nainital.
Ym 1913 sefydlodd yr urdd ei phencadlys, neu ei fam-dy, yn Holmhurst St Mary, St Leonards. Roedd hwn yn dŷ a oedd unwaith yn eiddo i Augustus Hare ac roedd wedi'i ymestyn gan ddefnyddio'r elw o'i ysgrifennu. [7]
Bu farw Mason yn Holmhurst St Mary ar 19 Rhagfyr 1941 a chladdwyd ei gweddillion yn y fynwent gysylltiedig â'i urdd.
Gweithiau
golyguYm 1909 cyhoeddodd Mason Saint Theresa : The History of Her Foundations, yr oedd wedi'i gyfieithu. [8]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "Mason, (Frances) Agnes (1849–1941), founder of the Community of the Holy Family". Oxford Dictionary of National Biography (yn Saesneg). doi:10.1093/ref:odnb/58485. Cyrchwyd 2021-05-16.
- ↑ "LAUGHARNE ECHOES - The Carmarthen Journal and South Wales Weekly Advertiser". J. Daniel. 1890-04-25. Cyrchwyd 2021-05-16.
- ↑ "Mason, (Marianne) Harriet (1845-1932), poor-law inspector". Oxford Dictionary of National Biography (yn Saesneg). doi:10.1093/ref:odnb/48847. Cyrchwyd 2021-05-16.
- ↑ "LAUGHARNE ECHOES - The Carmarthen Journal and South Wales Weekly Advertiser". J. Daniel. 1889-11-29. Cyrchwyd 2021-05-16.
- ↑ "Mason, Arthur James (1851-1928), Church of England clergyman and theologian". Oxford Dictionary of National Biography (yn Saesneg). doi:10.1093/ref:odnb/34917. Cyrchwyd 2021-05-16.
- ↑ "LAUGHARNE ECHOES - The Carmarthen Journal and South Wales Weekly Advertiser". J. Daniel. 1889-12-20. Cyrchwyd 2021-05-16.
- ↑ Augustus Hare and Holmhurst, Umilta.net adalwyd 16 Mai 2021
- ↑ Agnes Mason; E. M. Satow (24 Tachwedd 2011). Saint Theresa: The History of Her Foundations. Gwasg Prifysgol Caergrawnt. ISBN 978-1-107-65545-4.