Harriet Mason
Roedd Marianne Harriet Mason (19 Chwefror 1845 – 7 Ebrill 1932) yn gasglwr caneuon, darlunydd botanegol, casglwr planhigion, [1] arolygydd cyfraith y tlodion ac, awdur.
Harriet Mason | |
---|---|
Ganwyd | 19 Chwefror 1845 Marylebone |
Bu farw | 7 Ebrill 1932 Rondebosch |
Dinasyddiaeth | Lloegr |
Galwedigaeth | arolygydd, dylunydd botanegol |
Tad | George William Mason |
Cefndir
golyguGanwyd Mason ym Marylebone ym 1845 a chafodd ei magu yn Nhalacharn. [2] Roedd hi'n ferch i George William Mason a daeth ar ôl farwolaeth ei dad yn ysgweier Morton Hall ger Ranby, Swydd Nottingham a Marianne Atherton (née Mitford) ei wraig. O oedran ifanc iawn roedd saith plentyn Gorge a Marianne Mason wedi eu trwytho yng ngwaith elusennol a dyngarol Eglwys Loegr. Mewn cyfweliad ag un o gylchgronau Llundain The Queen mae Harriet, yn dweud "Does gen i ddim cof o gwbl o fy ymweliad cyntaf â thloty, na'r amser pan ddechreuais i ymddiddori yn y tlawd am y tro cyntaf".[3] Roedd ei brawd hynaf William Henry Mason yn aelod amlwg ac yn ddarlithydd dros Sefydliad Amddiffyn yr Eglwys.[4] Roedd brawd arall, Arthur James Mason, yn Athro Diwinyddiaeth yng Nghaergrawnt[5] ac roedd ei chwaer Agnes yn lleian a sylfaenydd yr urdd grefyddol Anglicanaidd, Cymuned y Teulu Sanctaidd.[6] Roedd brawd arall, George Edward Mason, yn offeiriad amlwg yn Eglwys Loegr[7] ac yn ddiweddarach yn brifathro coleg diwinyddol yn y Transkei (Coleg y Trawsnewidiad yn Ne Affrica bellach).
Yn bedair blwydd oed symudodd ei theulu i Sir Gaerfyrddin. Yn Nhalacharn daeth yn ymwybodol o'r traddodiad o ganu gwerin a channu rhigymau. Ym 1877 hi oedd un o'r menywod cyntaf i gasglu, recordio a chyhoeddi caneuon gwerin draddodiadol. Enw ei llyfr oedd "Nursery Rhymes and Country Songs" a'i fwriad oedd creu adloniant o amgylch y piano. Dywedir bod ei llyfr wedi dechrau adfywiad caneuon gwerin. Roedd hi'n hysbys i'r casglwyr caneuon gwerin Sabine Baring-Gould a Lucy Broadwood. Bu'n cynorthwyo Baring Gould i drefnu ac addasu'r gerddoriaeth ar gyfer ei lyfr Songs of the West.[3]
Gwaith
golyguRoedd Mason yn weithgar iawn yn cefnogi achosion da yn ei bro. Roedd hi'n is-lywydd Cyngor Esgobaeth Southwell, ac yn aelod gweithgar o Urdd Merched Nottingham, Cymdeithas Gyfeillgar y Merched a Chymdeithas Gyfeillgar y Dynion Ifanc, Cymdeithas Selborne a llawer iawn o fudiadau buddiol eraill hefyd. Roedd rhan o'i weithgarwch dyngarol yn cynnwys arolygu lles plant o dlotai Swydd Nottingham oedd wedi eu gosod i'w magu neu eu prentisio gan aelodau o'r cyhoedd.[3]
Oherwydd ei gwaith gyda phlant maeth o dlotai Swydd Nottingham gofynnodd Arthur Balfour, gweinidog y llywodraeth oedd a chyfrifoldeb am Y Bwrdd Llywodraeth Leol i Mason gwneud swydd debyg ar gyfer y cyfan o Gymru a Lloegr, am gyflog yn hytrach nag yn wirfoddol. Roedd y swydd i fod i barhau am dri mis yn wreiddiol ond roedd ei gwaith mor dda cafodd ei ail phenodi ar ddiwedd y tri mis fel swydd barhaol.[2]
Ymddeoliad
golyguAr ôl iddi ymddeol aeth i weld ei brawd, y Canon Edward Mason, yng Ngholeg St Bede, Umtata yn Ne Affrica lle bu'n arfer ei diddordeb mewn paentio blodau. Ym 1913 cyhoeddodd Some flowers of eastern and central Africa [1] ac fe’i hetholwyd i’r Gymdeithas Ddaearyddol Frenhinol. [8] Roedd gan Mason dai yn Lloegr a De Affrica. Teithiodd hi a'i brawd yn eang ac ymwelodd â De Rhodesia ac Wganda . [9]
Marwolaeth a gwaddol
golyguBu farw Mason yn ei chartref yn Rondebosch, Cape Town, De Affrica ym 1932.[2] Gadawodd ei chasgliadau planhigion i Erddi Kew . [9] Enwyd tri phlanhigyn ar ei hôl:
- Indigofera masoniae,
- Watsonia masoniae, a
- Crocosmia masoniae.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 Gunn, Mary; Codd, L. E. W. (1981). Botanical Exploration Southern Africa. CRC Press. tt. 246–. ISBN 978-0-86961-129-6.
- ↑ 2.0 2.1 2.2 "Mason, (Marianne) Harriet (1845–1932), poor-law inspector". Oxford Dictionary of National Biography (yn Saesneg). doi:10.1093/ref:odnb/48847. Cyrchwyd 2021-05-16.
- ↑ 3.0 3.1 3.2 "LAUGHARNE ECHOES - The Carmarthen Journal and South Wales Weekly Advertiser". J. Daniel. 1890-04-25. Cyrchwyd 2021-05-16.
- ↑ "LAUGHARNE ECHOES - The Carmarthen Journal and South Wales Weekly Advertiser". J. Daniel. 1889-11-29. Cyrchwyd 2021-05-16.
- ↑ "Mason, Arthur James (1851-1928), Church of England clergyman and theologian". Oxford Dictionary of National Biography (yn Saesneg). doi:10.1093/ref:odnb/34917. Cyrchwyd 2021-05-16.
- ↑ "Mason, (Frances) Agnes (1849–1941), founder of the Community of the Holy Family". Oxford Dictionary of National Biography (yn Saesneg). doi:10.1093/ref:odnb/58485. Cyrchwyd 2021-05-16.
- ↑ "LAUGHARNE ECHOES - The Carmarthen Journal and South Wales Weekly Advertiser". J. Daniel. 1889-12-20. Cyrchwyd 2021-05-16.
- ↑ "Marianne H Mason". ArtUK. Cyrchwyd 18 April 2017.
- ↑ 9.0 9.1 Mason, Marianne Harriet (1845-1932). https://plants.jstor.org/stable/10.5555/al.ap.person.bm000009725. Adalwyd 18 April 2017.