Ahmadou Kourouma
Nofelydd a dramodydd o Arfordir Ifori yn ysgrifennu yn Ffrangeg oedd Ahmadou Kourouma (24 Tachwedd 1927 – 11 Rhagfyr 2003).
Ahmadou Kourouma | |
---|---|
Ganwyd | 24 Tachwedd 1927 Boundiali |
Bu farw | 11 Rhagfyr 2003 Bron |
Dinasyddiaeth | Y Traeth Ifori |
Galwedigaeth | llenor |
Adnabyddus am | Allah Is Not Obliged, Waiting for the Wild Beasts to Vote, Le soleil des indépendances |
Gwobr/au | Prix Goncourt des Lycéens, Gwobr Renaudot, Grand prix littéraire d'Afrique noire, Amerigo Vespucci prize, Gwobr Inter am Lyfr, gwobr Maillé Latour Landry, Prif Wobr Jean-Giono, Prix Tropiques, Prize of the Magazine Études françaises |
Gyrfa
golyguDeilliai o deulu Malinké nodedig o ogledd y wlad a oedd, hyd at 1960, yn un drefedigaethau'r Ymerodraeth Ffrengig. Cafodd ei addysg uwch yn Bamako, Mali, ac yn Lyon, Ffrainc. Dychwelodd i Côte d'Ivoire wedi annibyniaeth, ond buan dechreuodd edifar dychwelyd i wlad dan arweiniad yr Arlywydd Félix Houphouët-Boigny. Treuliodd gyfnod yn y carchar, cyn gadael a threulio blynyddoedd yn alltud yn Algeria (1964–1969), Camerŵn (1974–1984) a Togo (1984–1994). Cyhoeddwyd ei nofel gyntaf, ac enwocaf, Les Soleils des indépendances yn 1968 gan Wasg Prifysgol Montréal. Mae'r nofel yn taro golwg feirniadol iawn ar y cyfnod ôl-annibyniaeth yn Arfordir Ifori.
Llyfryddiaeth
golygu- Les Soleils des indépendances (Gwasg Prifysgol Montréal, 1968)
- Monnè, outrages et défis (Seuil, 1990)
- En attendant le vote des bêtes sauvages (Seuil, 1994)
- Allah n'est pas obligé (Seuil, 2000)
- Quand on refuse on dit non (Seuil, 2004)