Aiatola
Arweinydd crefyddol Shïa, un o ddwy brif gangen Islam, yw aiatola[1][2] (Perseg: Lua error in Modiwl:Lang at line 15: attempt to index field 'lang_name_table' (a nil value)., sy'n tarddu o Arabeg: Lua error in Modiwl:Lang at line 15: attempt to index field 'lang_name_table' (a nil value). "Arwydd Duw"). Teitl anrhydeddus yn nhraddodiad Usuli y Deuddeg Imam yw "Aiatola" a roddir i glerigwr sy'n arbenigo mewn astudiaethau Islamaidd megis cyfreitheg, darllen y Corân, ac athroniaeth Islamaidd.
Math o gyfrwng | teitl anrhydeddus, Islamic religious occupation |
---|---|
Math | Islamic cleric, Shia Muslim |
Rhan o | Muslim clergy |
Enw brodorol | آیتالله |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Ymddangosodd yr enw yn ystod oes ddiweddar brenhinllin Qajar, a deyrnasodd dros Aruchel Wladwriaeth Persia o 1789 hyd 1925. Ni ddefnyddir y teitl ymhlith Shïaid Libanus, Pacistan, ac India, a fe'i defnyddir yn Irac dim ond mewn achos ysgolhaig y gyfraith o dras Iranaidd.[3] Daeth yn fwyfwy boblogaidd yn ail hanner yr 20g, ac mae nifer o aiatolas cyfoes yn meddu ar ddylanwad gwleidyddol.
Gallai aiatola gyhoeddi penderfyniadau a elwir ffatwa. Yn gywir, mae gan y ffatwa awdurdod i'r rheiny sy'n ei darllen ac yn cytuno â'i gynnwys yn unig, ond mae nifer o aiatolas yn denu dilynwyr sydd yn ystyried pob ffatwa ganddynt yn orfodol.
Geirdarddiad
golyguEnw Perseg ydy آيتالله (llythrennau Rhufeinig: āyatullāh) sy'n tarddu o'r gair Arabeg آية الله (āyatullāh), cyfuniad o آيات (ʾāyat), sef enw ar adnodau'r Corân a ffurf luosog ar arwydd, tystiolaeth, neu wyrth, ac الله (allāh), sef Duw.
Aiatolas o nod
golygu- Abolqasem al-Khoei (1899–1992), clerigwr, llenor a dyngarwr Iranaidd a ymsefydlodd yn ninas sanctaidd Al-Najaf, Irac
- Ruhollah Khomeini (1902–89), arweinydd Chwyldro Islamaidd Iran a Goruchaf Arweinydd Iran (1979–89)
- Ali Khameini (ganwyd 1939), Arlywydd Iran (1981–89) a Goruchaf Arweinydd Iran ers 1989
Cyfeiriadau
golygu- ↑ aiatola. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 14 Mawrth 2019.
- ↑ Geiriadur yr Academi, "Ayatollah".
- ↑ (Saesneg) "Ayatollah" yn The Oxford Dictionary of Islam (golygwyd gan John L. Esposito). Adalwyd ar Oxford Islamic Studies Online ar 14 Mawrth 2019.