Mae'r Shïa (Arabeg: شيعة , yn golygu "Plaid" ) yn enwad yng nghrefydd Islam, yr ail-fwyaf ar ôl y Sunni. Mae dilynwyr y Shïa, y Shïaid, yn ystyried Alī ibn Abī Tālib, cefnder a mab-yng-nghyfraith y Proffwyd Muhammad fel ei olynydd (Califf) ac fel yr Imam cyntaf. Yn ôl eu cred hwy, dim ond disgynyddion Ali all fod yn olynwyr y Proffwyd. Datblygodd rhai gwahaniaethau diwinyddol hefyd, ac mae cyfraith y Shïa ychydig yn wahanol i gyfraith y Swnni.

Rhan o gyfres ar
Islam


Athrawiaeth

Allah · Undod Duw
Muhammad · Proffwydi Islam

Arferion

Cyffes Ffydd · Gweddïo
Ymprydio · Elusen · Pererindod

Hanes ac Arweinwyr

Ahl al-Bayt · Sahaba
Califfiaid Rashidun · Imamau Shi'a

Testunau a Deddfau

Coran · Sŵra · Sunnah · Hadith
Fiqh · Sharia
Kalam · Tasawwuf (Swffiaeth)

Enwadau

Sunni · Shi'a

Diwylliant a Chymdeithas

Astudiaethau Islamig · Celf
Calendr · Demograffeg
Gwyliau · Mosgiau · Athroniaeth
Gwleidyddiaeth · Gwyddoniaeth · Merched

Islam a chrefyddau eraill

Cristnogaeth · Iddewiaeth

Gweler hefyd

Islamoffobia · Termau Islamig
Islam yng Nghymru

Credir fod y Shïaid tua 15% o ddilynwyr Islam heddiw. Mae nifer o wahanol fathau o Shïa; y mwyaf yw'r Imamyddion neu'r "Deuddegwyr", sy'n credu fod deuddeg Imam wedi bod. Maent yn byw yn Iran (90% o'r boblogaeth gyfan), Aserbaijan (85%), Irac (60%), Bahrain (70%), Libanus (40%), Kuwait (30%), Pacistan (20%), Affganistan (20%), Sawdi Arabia (5-20%), Syria (10%) ac India (1-2%).

Yr ail fath o Shïaid yw'r Ismailiaid, sy'n credu mewn saith Imam ac yn byw yn Pacistan, India, Syria ac Affganistan. Trydydd math yw'r Zaiditiaid, sy'n derbyn pump Imam, ac yn byw yng ngogledd Yemen yn bennaf. Mae'r Alefitiaid yn byw yn Nhwrci a'r gwledydd cyfagos.

Dechreuodd y Shïa ynghanol y dadleuon wedi marwolaeth Muhammad yn 632 ynglŷn â phwy ddylai ei olynu. Daeth Abū Bakr yn olynydd iddo, a dim ond yn ddiweddarach y cafodd Ali ei enwi fel y pedwerydd califf. Nid oedd pawb am ei dderbyn, ac yn 661 lladdwyd ef. Roedd Ali'n briod a merch y Proffwyd, Fātima. Yn ddiweddarach lladdwyd ail fab Ali a Fatima, trydydd Imam y Shia, Hussain ym mrwydr Kerbala yn 680. Mae'r Shïa'n ystyried Hussein fel merthyr.


Gwledydd gyda mwy na 10% o'r boblogaeth yn ddilynwyr Islam
Gwyrdd: Gwledydd y Swnni, Coch: Gwledydd Shïa, Glas: Ibaditiaid (Oman)