Ruhollah Khomeini
Gwleidydd ac arweinydd crefyddol o Iran oedd Ruhollah Mostafavi Moosavi Khomeini (Persieg: روحالله خمینی) ynganiad , 24 Medi 1902 – 3 Mehefin 1989), a adwaenir hefyd fel Aiatola Khomeini. Ef oedd arweinydd Chwyldro Islamaidd Iran a sbardunwyd yn 1979 ac a welodd ddymchwel y Shah cyfredol sef Mohammad Reza Pahlavi. Yn dilyn y chwyldro hwn, gwnaed Khomeini yn Arweinydd Goruchel Cyntaf (First Supreme Leader), swydd a grëwyd oddi fewn i gyfansoddiad y wlad i fod yn bennaeth crefyddol a gwleidyddol; bu yn y swydd hon hyd at ei farwolaeth yn 1989. Wedi cymryd awenau'r wlad, aeth ati i ddifa mausoleum y 'Reza Shah' a dienyddiwyd nifer o'i wrthwynebwyr gwleidyddol a llofruddwyr, o bosib cannoedd o filoedd ohonynt.[1]
Ruhollah Khomeini | |
---|---|
Ganwyd | سید روحالله مصطفوی 17 Mai 1900 Khomein |
Bu farw | 3 Mehefin 1989 o trawiad ar y galon Tehran |
Dinasyddiaeth | Iran |
Galwedigaeth | gwleidydd, bardd, arweinydd crefyddol, akhoond, diwinydd, cyfrinydd |
Swydd | Prif Arweinydd Aran |
Adnabyddus am | Forty Hadith, Kashf al-Asrar, Islamic Government, Q5948537 |
Plaid Wleidyddol | Plaid Weriniaethol Islamaidd |
Tad | Seyyed Mostafa Khomeini |
Priod | Khadijeh Saqafi |
Plant | Mostafa Khomeini, Ahmad Khomeini, Zahra Mostafavi Khomeini, Farideh Mostafavi |
Perthnasau | Hassan Khomeini |
Gwobr/au | Time Person of the Year |
Gwefan | http://www.imam-khomeini.ir/ |
llofnod | |
Ruhollah Khomeini | |
---|---|
Arweinydd Goruchel Cyntaf | |
Yn ei swydd 3 Rhagfyr 1979 – 3 Mehefin 1989 | |
Arlywydd | Abolhassan Banisadr Mohammad-Ali Rajai Ali Khamenei |
Prif Weinidog | Mehdi Bazargan Mohammad-Ali Rajai Mohammad-Javad Bahonar Mahdavi Kani Mir-Hossein Mousavi |
Rhagflaenwyd gan | Mohammed Reza Pahlavi fel 'Shah Iran |
Dilynwyd gan | Ali Khamenei |
Roedd Khomeini yn awdur dros 40 o lyfrau ond fe'i adwaenir yn bennaf fel gwleidydd. Cyn ei benodi'n Arweinydd Goruchel treuliodd dros 15 mlynedd yn alltud gan iddo anghytuno â'r Shah ar y pryd. Datblygodd syniadau Usuli oddi fewn i'w grefydd Shi'a (a alwodd yn velayat-e faqih) a nododd y dylai rheolaeth o'r wlad fod yn nwylo crefyddwyr y wlad.[2] Yn ddiweddarach cyfunwyd yr athroniaeth hon o fewn cyfansoddiad y wlad,[3] yn dilyn refferendwm democrataidd.[4]
Yn 1979 creodd yr Aiatola Khomeini (fel y gelwid ef) y Basij Mostazafan, sef mudiad gwirfoddol o bobl ifanc (gan mwyaf). Pan ddechreuodd Rhyfel Irac ac Iran yn 1980, cyhoeddodd Khomeni 'fatwa', gyda'r addewid o baradwys a chyfunwyd y mudiad Basij Mostazafan gyda'r fyddin.
Yn 1979 fe'i enwebwyd ef gan y cylchgrawn TIME fel person mwyaf dylanwadol ei oes, yn rhyngwladol,[5] ac fe'i disgrifiwyd fel "wyneb rhithwir Islam o fewn Diwylliant y Gorllewin""[6] ble erys yn gymeriad dadleuol.Er enghraifft, cefnogodd gymeryd gwystlon yn ystod argyfwng Iran[7] ac am alw Llywodraeth yr Unol Daleithiau "Y Satan Mawr"; galwodd Rwsia "Y Satan Lleiaf" a dywedodd na ddylai Iran genogi'r naill na'r llall.[8]
Gweler hefyd
golygu- Gweriniaeth Islamaidd
- Sāzmān-e mojāhedin-e khalq-e irān, plaid wleidyddol a mudiad chwyldroadol parafilwrol
- Rhaglen niwclear Iran
- Mahmoud Ahmadinejad
Cyfeiriadau
golygu- ↑ http://www.telegraph.co.uk/news/worldnews/middleeast/iran/1321090/Khomeini-fatwa-led-to-killing-of-30000-in-Iran.html
- ↑ Abrahamian, Iran, (1982) tud.478–479
- ↑ Moin, Khomeini, (2000), p.218
- ↑ "NYU Law: A Guide to the Legal System of the Islamic Republic of Iran". Nyulawglobal.org. Cyrchwyd 16 Rhagfyr 2011.
- ↑ "TIME Person of the Year 1979: Ayatullah Khomeini". Time. 7 Ionawr 1980. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2008-11-23. Cyrchwyd 22 Tachwedd 2008.
- ↑ Nasr, Vali, The Shia Revival, Norton, (2006), tud.138
- ↑ "The Mystic Who Lit The Fires of Hatred". Time. 7 Ionawr 1980. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2010-09-20. Cyrchwyd 19 Mawrth 2010.
- ↑ Katz, Mark N. (2010). "Iran and Russia". In Wright, Robin B. (gol.). The Iran Primer: Power, Politics, and U.S. Policy. United States Institute of Peace. t. 186. ISBN 978-1-60127-084-9.