Aias Fychan

(Ailgyfeiriad o Aiax y Lleiaf)

Arwr Groegaidd y ceir ei hanes yn yr Iliad gan Homeros ac mewn hanesion eraill yw Aias Fychan neu Aias y Lleiaf (Lladin: Aiax), hefyd Ajax. Fe'i gelwir yn Aias Fychan i'w wahaniaethu oddi wrth un arall o'r arwyr Groegaidd yng Nghaerdroea, Aias Fawr. Toedd yn fab i Oileus, brenin Locris.

Aias Fychan yn rheibio Casandra

Wedi cwymp Caerdroea, rheibiodd Aias y broffwydes Cassandra; cymerodd arweinwyr y Groegiaid, Agamemnon, hi yn ordderch wedyn. Enwyd clwb peldroed AFC Ajax o Amsterdam ar ôl yr Aias yma, gan y dywedir ei fod yn redwr arbennig o gyflym.