Muhammad Ahmad al-Mahdi
Roedd Muhammad Ahmad al-Mahdi neu al-Mahdi (12 Awst 1844 – 22 Mehefin 1885) yn arweinydd gwrthryfel yn erbyn ymerodraeth Prydain yn y Swdan.
Muhammad Ahmad al-Mahdi | |
---|---|
Ganwyd | 12 Awst 1844 Dongola |
Bu farw | 22 Mehefin 1885 o teiffws Khartoum |
Galwedigaeth | gwleidydd, Ysgolhaig Islamaidd, arweinydd milwrol, gwrthryfelwr milwrol, masnachwr caethweision |
Ei hanes
golyguCafodd weledigaeth gyfriniol a chredodd mai ei genhadaeth oedd arwain ei bobl i ryddid. Datganodd ei fod y Mahdi a chywynodd wrthryfel yn erbyn llywodraeth yr Aifft (a reolai Swdan yn enw Prydain). Cipiodd Khartoum o ddwylo'r Cadfridog Gordon ym mis Ionawr 1885 ond bu farw rhai misoedd yn ddiweddarach yn Omdurman, efallai o golera.
Cafodd y Mahdi ei ddemoneiddio gan haneswyr poblogaidd cyfnod yr ymerodraeth Brydeinig.
Al-Mahdi
golyguYstyr y gair Arabeg al-Mahdi yw "Yr Un Sy'n Cael ei Dywys". Teitl crefyddol yn nhraddodiad Islam ydyw. Gellid cymharu'r cred yn y Mahdi â chred rhai Cristnogion yn ail-ddyfodiad y Meseia.