Muhammad Ahmad al-Mahdi

(Ailgyfeiriad o Mahdi)

Roedd Muhammad Ahmad al-Mahdi neu al-Mahdi (12 Awst 184422 Mehefin 1885) yn arweinydd gwrthryfel yn erbyn ymerodraeth Prydain yn y Swdan.

Muhammad Ahmad al-Mahdi
Ganwyd12 Awst 1844 Edit this on Wikidata
Dongola Edit this on Wikidata
Bu farw22 Mehefin 1885 Edit this on Wikidata
o teiffws Edit this on Wikidata
Khartoum Edit this on Wikidata
DinasyddiaethSultanate of Darfur, Khedivate of Egypt, Mahdist Sudan Edit this on Wikidata
Galwedigaethgwleidydd, diwinydd, arweinydd milwrol, gwrthryfelwr milwrol, masnachwr caethweision Edit this on Wikidata
Swyddpennaeth y wladwriaeth Edit this on Wikidata

Ei hanes golygu

Cafodd weledigaeth gyfriniol a chredodd mai ei genhadaeth oedd arwain ei bobl i ryddid. Datganodd ei fod y Mahdi a chywynodd wrthryfel yn erbyn llywodraeth yr Aifft (a reolai Swdan yn enw Prydain). Cipiodd Khartoum o ddwylo'r Cadfridog Gordon ym mis Ionawr 1885 ond bu farw rhai misoedd yn ddiweddarach yn Omdurman, efallai o golera.

Cafodd y Mahdi ei ddemoneiddio gan haneswyr poblogaidd cyfnod yr ymerodraeth Brydeinig.

Al-Mahdi golygu

Ystyr y gair Arabeg al-Mahdi yw "Yr Un Sy'n Cael ei Dywys". Teitl crefyddol yn nhraddodiad Islam ydyw. Gellid cymharu'r cred yn y Mahdi â chred rhai Cristnogion yn ail-ddyfodiad y Meseia.

Mae tref Mahdia yn Tiwnisia yn dwyn yr enw.

  Eginyn erthygl sydd uchod am Islam. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.