Haint a achosir gan y bacteriwm Vibrio cholerae yw Colera neu Y geri marwol. Fel arfer, trosglwyddir yr haint trwy yfed dŵr amhur, er y gall gael ei drosglwyddo gan fwyd hefyd.

Colera
Enghraifft o'r canlynolclefyd heintus Edit this on Wikidata
Mathclefyd coluddol heintus, clefyd a gludir gan ddŵr, clefyd heintus bacterol cychwynnol, anthroponotic disease, clefyd heintus fibrio, clefyd Edit this on Wikidata
Arbenigedd meddygolAfiechydon heintiol edit this on wikidata
SymptomauDolur rhydd, chwydu, dadhydriad, hypovolemia, gwingiad, anghysur, isbwysedd, oligwria, dulasedd, syched, tyndra’r cyhyrau edit this on wikidata
AchosVibrio cholerae edit this on wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Rhestr Afiechydon
Pigiad
Pwyswch ar dangos i weld y rhestr.
Y blwch hwn: gweld  sgwrs  golygu
Ardaloedd lle ceir colera

Mae'r bacteriwm Vibrio cholerae yn cynhyrchu tocsin sy'n effeithio ar yr epitheliwm ar wyneb mewnol y coluddion. Mae hyn yn arwain at ddeiaria difrifol, sy'n arwain at farwolaeth trwy golli dŵr o'r corff. Gellir atal yr afiechyd i raddau helaeth trwy sicrhau cyflenwad o ddŵr glan.

Roedd yr haint yn wreiddiol yn India, a lledodd ar hyd llwybrau masnach i Rwsia ac yna i orllewin Ewrop. Cafwyd nifer o ymosodiadau o'r haint yn Ewrop yn ynstod y 19g, gyda miloedd yn marw. Er enghraifft yn haint 1832, by farw 20,000 ym Mharis a 6,536 yn Llundain. Effeithiwyd ar y ddwy ddinas yma eto yn 1849, gyda 14,137 yn marw yn Llundain; bu farw 5,308 yn Lerpwl yr un flwyddyn. Lledodd i'r Unol Daleithiau yr un flwyddyn, ac ymhlith y rhai a fu farw roedd yr Arlywydd, James K. Polk. Bu farw 10,738 yn Llundain yn 1853-4 a 3,500 (5.5% o'r boblogaeth) yn Chicago yn 1854. Y tro diwethaf i nifer fawr o bobl farw o'r haint yn Ewrop oedd 1892, pan fu farw 8,600 yn Hamburg. Mae'r haint yn parhau i fod broblem ddifrifol mewn rhannau o'r trydydd byd.

Pobl enwog fu farw o'r colera

golygu