Alan Arkin

cyfarwyddwr ffilm, cynhyrchydd a sgriptiwr ffilm a aned yn Efrog Newydd yn 1934

Actor, cyfarwyddwr, cynhyrchydd a sgriptiwr Americanaidd oedd Alan Wolf Arkin (26 Mawrth 193429 Mehefin 2023).[1] Ennillodd Gwobr yr Academi, Gwobr BAFTA, Gwobr Golden Globe a Gwobr Tony yn ystod ei yrfa. Roedd Arkin yn fwyaf adnabyddus am ei rôl fel Yossarian yn y ffilm Mike Nichols Catch-22.

Alan Arkin
GanwydAlan Wolf Arkin Edit this on Wikidata
26 Mawrth 1934 Edit this on Wikidata
Brooklyn Edit this on Wikidata
Bu farw29 Mehefin 2023 Edit this on Wikidata
San Marcos Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner UDA UDA
Alma mater
  • Prifysgol Bennington
  • Los Angeles City College
  • Franklin High School Edit this on Wikidata
Galwedigaethcyfarwyddwr ffilm, cerddor, ysgrifennwr, actor cymeriad, cyfarwyddwr teledu, sgriptiwr, canwr, actor llwyfan, actor ffilm, actor teledu, cyfarwyddwr theatr, awdur plant, cynhyrchydd ffilm, awdur ffuglen wyddonol, actor, cyfarwyddwr Edit this on Wikidata
TadDavid I. Arkin Edit this on Wikidata
PlantAdam Arkin, Matthew Arkin Edit this on Wikidata
PerthnasauJoseph Wortis, Avi Edit this on Wikidata
Gwobr/auGwobr yr Academi i'r Actor-gynorthwyydd Gorau, Gwobr Tony am yr Actor Gorau mewn Drama, Gwobr Golden Globe am Actor Gorau - Ffilm Sioe-gerdd neu Gomedi, Drama Desk Award for Outstanding Director, Drama Desk Award for Outstanding Director, Genie Award for Best Performance by a Foreign Actor, Genie Award for Best Supporting Actor, Gwobr BAFTA am Actor Gorau mewn Rhan Gynhaliol, Independent Spirit Award for Best Supporting Male, Gwobr Urdd Actorion Sgrin ar gyfer Perfformiad Eithriadol gan Cast mewn Ffilm Nodwedd, Gwobr Urdd Actorion Sgrin ar gyfer Perfformiad Eithriadol gan Cast mewn Ffilm Nodwedd, Gwobr y 'Theatre World', Gwobr y Glob Aur am yr Actor Cefnogol Gorau - ar ffim, seren ar Rodfa Enwogion Hollywood Edit this on Wikidata

Cafodd Arkin ei eni yn Brooklyn, Efrog Newydd, yn fab i David I. Arkin, peintiwr ac awdur, a'i wraig, yr athrawes Beatrice (g. Wortis).[2] [3] Cafodd ei fagu mewn teulu Iddewig.[4] Symudodd y teulu i Los Angeles pan oedd Alan yn 11 oed. [5] Yn ystod y 1950au, cyhuddwyd rhieni Arkin o fod yn Gomiwnyddion, a chafodd ei dad ei ddiswyddo. [6]

Ym 1968, bu’n serennu fel yr Arolygydd Jacques Clouseau yn nhrydydd rhandaliad masnachfraint The Pink Panther, o’r enw Inspector Clouseau. Yr un flwyddyn, derbyniodd enwebiadau ar gyfer Gwobr yr Academi am yr Actor Gorau, a Gwobr Golden Globe am yr Actor Gorau - Drama Motion Picture am ei rôl yn The Heart Is a Lonely Hunter.[7] [8]

Bu Arkin yn briod deirgwaith. Roedd ganddo ef a Jeremy Yaffe (p. 1955-1961) ddau fab: yr actorion Adam Arkin (g. 1956) a Matthew Arkin (g. 1960). Priododd Barbara Dana ym 1964; ymddangosodd Dana gydag ef mewn rhannau o Sesame Street yn y 1970au. Ym 1967, bu iddynt fab, Anthony (Tony) Dana Arkin.[9] Ym 1996, ar ol ei ysgariad priododd Arkin y seicotherapydd Suzanne Newlander. [10]

Bu farw Arkin yn ei gartref yn San Marcos, California, yn 89 oed.[11]

Cyfeiriadau golygu

  1. CoinNinza (2023-07-01). "Alan Arkin dies at 89- He was Oscar-winning 'Little Miss Sunshine' actor". Medium (yn Saesneg). Cyrchwyd 1 Gorffennaf 2023.
  2. "Alan Arkin, Oscar-Winning 'Little Miss Sunshine' Actor, Dead at 89". Peoplemag (yn Saesneg). Cyrchwyd 30 Mehefin 2023.
  3. Gilbey, Ryan (30 Mehefin 2023). "Alan Arkin obituary". The Guardian (yn Saesneg). ISSN 0261-3077. Cyrchwyd 30 Mehefin 2023.
  4. Bloom, Nate (19 Chwefror 2013). "Interfaith Celebrities: 85th Annual Academy Awards". InterfaithFamily.com. Cyrchwyd 25 Mai 2018.
  5. Sierchio, Pat (16 Chwefror 2007). "Alan Arkin—not just another kid From Brooklyn". The Jewish Journal of Greater Los Angeles. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 23 Chwefror 2007. Cyrchwyd 16 Chwefror 2007.
  6. Marks, Scott (2014-09-24). "You do realize that you're Alan Arkin?". San Diego Reader (yn Saesneg). Cyrchwyd 1 Mehefin 2023.
  7. "Cliff Robertson Wins Best Actor: 1969 Oscars". YouTube. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2022-12-05. Cyrchwyd 2023-07-02.CS1 maint: BOT: original-url status unknown (link)
  8. 1969|Oscars.org
  9. Lague, Louise (26 Mawrth 1979). "Stardom Was a Catch-22 for Alan Arkin, but His Wife and a Guru Helped Beat the System". People. Cyrchwyd 21 Awst 2015.
  10. Kang, Esther (30 Mehefin 2023). "The Sweet Way Alan Arkin Gave a Nod to His Wife Suzanne Newlander in Netflix's 'The Kominsky Method'". Yahoo!. Cyrchwyd 1 Gorffennaf 2023.
  11. Murphy, J. Kim; Dagan, Carmel (June 30, 2023). "Alan Arkin, Oscar Winner for 'Little Miss Sunshine,' Dies at 89". Variety (yn Saesneg). Cyrchwyd 30 Mehefin 2023.