Alan Rickman

cyfarwyddwr ffilm, cynhyrchydd, sgriptiwr ffilm ac actor a aned yn Hammersmith yn 1946

Roedd Alan Sidney Patrick Rickman (21 Chwefror 1946 - 14 Ionawr 2016) yn actor Seisnig. Mae Rickman yn fwyaf adnabyddus am chwarae rhannau Hans Gruber yn Die Hard ac fel Severus Snape yn y gyfres o ffilmiau Harry Potter. Mae ef hefyd yn enwog am ei rôl flaenllaw fel Siryf Nottingham yn ffilm lwyddiannus 1991, Robin Hood: Prince of Thieves ac yn fwy diweddar fel y Barnwr Turpin yn ffilm Tim Burton Sweeney Todd: The Demon Barber of Fleet Street.

Alan Rickman
GanwydAlan Sidney Patrick Rickman Edit this on Wikidata
21 Chwefror 1946 Edit this on Wikidata
Hammersmith Edit this on Wikidata
Bu farw14 Ionawr 2016 Edit this on Wikidata
o canser y pancreas Edit this on Wikidata
Llundain Edit this on Wikidata
Man preswylHammersmith Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethactor teledu, actor ffilm, actor llais, actor cymeriad, cyfarwyddwr ffilm, cynhyrchydd ffilm, dylunydd graffig, actor llwyfan, ysgrifennwr, actor, sgriptiwr, cyfarwyddwr theatr, cyfarwyddwr Edit this on Wikidata
Arddullcomedi Shakespearaidd Edit this on Wikidata
Plaid Wleidyddoly Blaid Lafur Edit this on Wikidata
PriodRima Horton Edit this on Wikidata
Gwobr/auGwobr BAFTA am Actor Gorau mewn Rhan Gynhaliol, Gwobr Urdd Actorion Sgrin i Actor Gwrywaidd mewn Cyfres Bitw neu Ffilm Deledu, Gwobr James Joyce, Golden Globes, Primetime Emmy Award for Outstanding Lead Actor in a Miniseries or a Movie Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://alanrickman.com Edit this on Wikidata

Yn 1995 enillodd Wobr Emmy a Gwobr Screen Actors Guild am ei bortread o Rasputin: Dark Servant of Destiny. Enillodd wobr BAFTA Award am ei ran yn y ffilm Robin Hood.

Bu farw Rickman o ganser y pancreas ar 14 Ionawr 2016 yn 69 oed. Bydd ei ffilm olaf, yn lleisio cymeriad Absolem yn Alice Through the Looking Glass, yn cael ei lansio yn yr Unol Daleithiau ym Mai 2016.

Bywyd cynnar golygu

Ganwyd Rickman yn Acton, Llundain,[1][2] i deulu dosbarth gweithiol, yn fab i Margaret Doreen Rose (Bartlett) gwraig tŷ, a Bernard Rickman, gweithiwr ffatri.[3] Roedd ganddo linach Seisnig, Gwyddelig a Chymreig;[4] ganed ei fam yn Nhrefforest[5]. Roedd ei dad yn Babydd a'i fam yn Fethodist.[6][7] Roedd ei deulu yn cynnwys brawd hyn, David (g. 1944), dylunydd graffeg; brawd iau, Michael (g. 1947), hyfforddwr tennis; a chwaer iau, Sheila (g. 1950).[6][8] Aeth Rickman i Ysgol Gynradd Derwentwater yn Acton, ysgol oedd yn dilyn y dull addysgu Montessori.[9]

Bu farw ei dad pan oedd yn wyth mlwydd oed, gan adael ei fam i fagu eu phlant yn bennaf ar ben ei hun. Fe briododd eto, ond ysgarodd ei lys-dad ar ôl tair mlynedd. "Roedd un cariad yn ei bywyd", meddai Rickman yn ddiweddarach amdani.[6] Roedd yn rhagori ar caligraffega pheintio dyfrlliw. O Ysgol Gynradd Derwentwater enillodd ysgoloriaeth i Ysgol Uwchradd Latymer yn Llundain, lle wnaeth ymhel yn fwy a drama. Ar ôl gadael Latymer, fe fynychodd Coleg Celf a Dylunio Chelsea ac yna y Coleg Brenhinol Celf. Gyda'r addysg yma fe weithiodd fel dylunydd graffeg i bapur newydd y Notting Hill Herald, swydd yr oedd Rickman yn ystyried fel galwedigaeth mwy sefydlog na actio. "'Doedd ysgol ddrama ddim yn cael ei ystyried yn rhywbeth synhwyrol i wneud yn 18".[10]

Ar ôl graddio, fe wnaeth Rickman a nifer o ffrindiau agor stiwdio dylunio graffeg o'r enw Graphiti, ond ar ôl tair mlynedd o fusnes llwyddiannus, fe benderfynodd ei fod am ddilyn trywydd actio yn broffesiynol. Fe ysgrifennodd i ofyn am glyweliad gyda'r Academi Frenhinol Celf Ddramatig (RADA),[11] a fynychodd rhwng 1972–74. Tra oedd yno, fe astudiodd Shakespeare ac yn cynnal ei hun drwy weithio fel gwisgwr i Syr Nigel Hawthorne a Syr Ralph Richardson.[12]

Ffilmiau golygu

  • Die Hard (1988)
  • Truly, Madly, Deeply (1991)
  • Robin Hood: Prince of Thieves (1991)
  • Bob Roberts (1992)
  • An Awfully Big Adventure (1995)
  • Sense and Sensibility (1995)
  • Galaxy Quest (1999)
  • Harry Potter and the Philosopher's Stone (2001)
  • Harry Potter and the Chamber of Secrets (2002)
  • Love Actually (2003)
  • Harry Potter and the Prisoner of Azkaban (2004)
  • Harry Potter and the Goblet of Fire (2005)
  • Harry Potter and the Order of the Phoenix (2007)
  • Harry Potter and the Deathly Hallows – Part 1 (2010)
  • Harry Potter and the Deathly Hallows – Part 2 (2011)

Teledu golygu

  • Romeo and Juliet (1978)
  • Smiley's People (1982)
  • The Barchester Chronicles (1982)
  • Girls on Top (1985)
  • Back at the Barnyard (2010)

Cyfeiriadau golygu

  1. Profile, biography.com; adalwyd 14 Ionawr 2016.
  2. Paton, Maureen (1996). Alan Rickman: the unauthorised biography. London: Virgin. ISBN 1852276304.
  3. Solway, Diane (August 1991). "Profile: Alan Rickman". European Travel and Life. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2007-10-06. Cyrchwyd 3 Hydref 2007. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)
  4. White, Hilary A. (13 Ebrill 2015). "Alan Rickman – A working-class hero at the court of Versailles". Independent.ie. Cyrchwyd 14 Ionawr 2016.
  5. Actor Alan Rickman dies aged 69; WalesOnline; Adalwyd 15 Ionawr 2016
  6. 6.0 6.1 6.2 Mackenzie, Suzie (3 Ionawr 1998). "Angel with Horns". The Guardian. UK. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2007-10-06. Cyrchwyd 3 Hydref 2007. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)
  7. Alan Rickman
  8. England & Wales births 1837–2006. General Register Office. England and Wales Civil Registration Indexes. London, England: General Register Office. Print.
  9. Maureen Paton (1996). Alan Rickman – The Unauthorised Biography. Virgin Books. ISBN 0-7535-0754-4.
  10. "THE DEVIL IN MR RICKMAN". btinternet.com. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 22 Ebrill 2001.
  11. "Interview: Evil Elegance". Alan-rickman.com. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2011-07-07. Cyrchwyd 9 Gorffennaf 2011. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)
  12. Interview Alan Rickman, abouthp.free.fr; adalwyd 20 Rhagfyr 2007.