Alaric I
Roedd Alaric I (c. 370 - 410) yn frenin y Fisigothiaid (395 - 410). Mae'n fwyaf adnabyddus oherwydd iddo gipio dinas Rhufain yn 410, y tro cyntaf i hyn ddigwydd ers 390 CC.
Alaric I | |
---|---|
Ganwyd | c. 4 g Peuce Island |
Bu farw | Rhagfyr 410 Cosenza |
Galwedigaeth | brenin neu frenhines, arweinydd milwrol |
Swydd | Magister militum, king of Wisigoths, Dux, Q113163086 |
Tad | Athanaric, Alaviv, Rothesteus |
Mam | Unknown |
Priod | Anonyma |
Plant | Pelagia |
Perthnasau | Theodoric I, Ataulf |
Llinach | Balti dynasty |
Ganed Alaric tua'r flwyddyn 375 at ynys Peuce, ger aber Afon Donaw. Dechreuodd ei yrfa filwrol fel arweinydd byddin Fisigothaidd yn ymladd dros yr Ymerodraeth Rufeinig. Tua 395 gwrthryfelodd y Fisigothiaid a chyhoeddi Alaric yn frenin. Bu'n ymladd yn erbyn Honorius, yr Ymerawdwr Rhufeinig yn y gorllewin. Yn 401 gwnaeth gytundeb ag Arcadius, yr ymerawdwr yn y dwyrain, a'i galluogodd i arwain ei fyddin tua'r gorllewin, gan gipio dinasoedd Groegaidd megis Corinth a Sparta cyn cyrraedd Yr Eidal. Yno, gorchfygwyd ef gan y cadfridog Rhufeinig Stilicho ar 6 Ebrill 402 ym Mrwydr Pollentia.
Wedi i Honorius lofruddio Stilicho yn 408, gallodd Alaric a'i fyddin ymosod ar yr Eidal eto a gosod gwarchae ar ddinas Rhufain. Ym mis Awst 410 cipiodd y ddinas a'i hanrheithio, gan ddwyn chwaer yr ymerawdwr, Gala Placidia, ymaith fel carcharor. Yn fuan wedyn bu farw yn Cosenza, efallai o dwymyn. Claddwyd ef ar wely Afon Busento; trowyd llif yr afon o'i sianel i gloddio ei fedd, ac yna wedi ei gladdu gadawyd i'r dŵr ddychwelyd fel na allai neb ysbeilio ei fedd. Olynwyd ef gan ei frawd-yng-nghyfraith, Ataulf.