Alchemilla vulgaris
Mantell Fair | |
---|---|
Dosbarthiad gwyddonol | |
Unrecognized taxon (fix): | Alchemilla |
Rhywogaeth: | A. vulgaris |
Enw deuenwol | |
Alchemilla vulgaris L. |
Mantell Fair | |
---|---|
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Plantae |
Cytras: | Tracheophytes |
Cytras: | Angiosperms |
Cytras: | Eudicots |
Cytras: | Rosids |
Trefn: | Rosales |
Teulu: | Rosaceae |
Genws: | Alchemilla |
Rhywogaeth: | A. vulgaris
|
Enw Binomial | |
Alchemilla vulgaris |
Planhigyn lluosflwydd llysieuol yn Ewrop a'r Ynys Las yw Alchemilla vulgaris, ac fe'i hadnabyddir yn y Gymraeg fel Mantell Fair (Lady's mantle yn Saesneg). [1] Mae'r blodyn gwyllt lluosflwydd hwn, yn aelod o deulu'r rhosyn, weithiau caiff ei dyfu mewn gerddi - yn bennaf am ei ddail, sy'n casglu defnynnau dŵr pefriog ar ôl glaw,
Mae'n gyffredin mewn glaswelltir heb ei wella neu wedi'i wrteithio'n ysgafn, ar ymylon ffyrdd a chloddiau, ar lawrdir sialc ac ar lethrau mynyddoedd.
Cyfystyron:
- Alchemilla acutangula Buser [2]
- Alchemilla acutiloba Opiz [2]
- Alchemilla latifolia Salisb. [2]
- Alchemilla pontica (Buser) K.Malý [2]
- Potentilla acutiloba (Opiz) Christenh. & Väre [2]
|
Adnabod
golyguMae'r llabedau rhychiog nodedig (5 i 11 llabed gyda llai ar y dail uwch) ar ffurf aren i hanner cylch ar ddail Alchemilla yn ei gwneud hi'n weddol syml o ran adnabyddiaeth i lefel genws .
Mae'r blodau melyn-wyrdd yn ffurfio clystyrau. Mae pob blodyn unigol fel arfer yn 3mm mewn diamedr, heb unrhyw betalau gwirioneddol ond epicalycs/argwpanau pedwar llabedog, pedwar sepal ac fel arfer pedwar ond weithiau pum briger .
Ym Mhrydain ac Iwerddon mae blodau bychain Alchemilla vulgaris i'w gweld o fis Mehefin tan fis Medi.
Mae Alchemilla mollis, rhywogaeth ychydig yn fwy ond fel arall yn debyg iawn, yn dennyg yn eithaf cyffredin o'r ardd a weithiau felly'n medru ymddangos mewn gwrychoedd ac ar laswelltir gwyllt. [3]
Enwau cyffredin Saesneg ar Fantell Fair yw Lady's mantle, Nine hooks, neu Bear's foot , neu Lion's foot. [4]
Rhyngweithiadau rhywogaethau
golyguGwyddys bod Alchemilla vulgaris yn cynnal o leiaf tair rhywogaeth o ffyngau, Coleroa alchemillae, Phoma herbarum a Ramularia aplospora . [5]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Encyclopedia of Life. "Details for: Alchemilla vulgaris". Encyclopedia of Life. Cyrchwyd 2013-07-23.
- ↑ 2.0 2.1 2.2 2.3 2.4 "Alchemilla vulgaris L. | Plants of the World Online | Kew Science". Plants of the World Online (yn Saesneg). Cyrchwyd 15 February 2021.
- ↑ "Alchemilla vulgaris, Lady's Mantle: identification, distribution, habitat". www.first-nature.com. Cyrchwyd 2016-09-04.
- ↑ "Lady's Mantle Benefits (Alchemilla Vulgaris), Dosage, And Side Effects".
- ↑ Helgi Hallgrímsson & Guðríður Gyða Eyjólfsdóttir (2004). Íslenskt sveppatal I - smásveppir [Checklist of Icelandic Fungi I - Microfungi. Fjölrit Náttúrufræðistofnunar. Náttúrufræðistofnun Íslands [Icelandic Institute of Natural History]. ISSN 1027-832X