Aldehyd
Mae aldehyd yn gyfansoddyn cemegol sy'n cynnwys grŵp carbonyl terfynol. Mae'r grŵp gweithredol yma, sy'n cynnwys atom o garbon wedi bondio ag atom o hydrogen ac sydd hefyd wedi bondio'n ddwbl â'r ocsigen (fformiwla gemegol O=CH-) yn cael ei alw'n "grŵp aldehyd".
Mae'r gair aldehyd yn deillio o alcohol dehydrogenated (alcohol a ddadhydrogenwyd).