Aled Glynne

Darlledwr a chyn-olygydd BBC Radio Cymru

Darlledwr oedd Aled Glynne (29 Mawrth 1957 – Rhagfyr 2022), neu Aled Glynne Davies. Bu'n Olygydd ar orsaf BBC Radio Cymru rhwng 1995 a 2006.

Aled Glynne
Ganwyd29 Mawrth 1957 Edit this on Wikidata
Bu farwRhagfyr 2022 Edit this on Wikidata
Caerdydd Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethdarlledwr Edit this on Wikidata
TadT. Glynne Davies Edit this on Wikidata
PlantGwenllian Glyn, Gruffudd Glyn Edit this on Wikidata

Fe'i ganed yn 1957 yn un o bedwar mab y bardd T. Glynne Davies. Ei frodyr yw Owen, Geraint a Gareth. Mynychodd Ysgol Gynradd Gymraeg Bryntaf yna ysgolion uwchradd Ysgol Maes Garmon ac Ysgol Dyffryn Ogwen.

Gyrfa golygu

Cychwynnodd ei yrfa darlledu ar Sain Abertawe yn 1976, gan gyflwyno sioe gerddoriaeth Mynd am Sbin.[1] Yn 1978 ymunodd fel newyddiadurwr gyda BBC Cymru. Bu'n gweithio yn yr adran newyddion am flynyddoedd, ar y radio a'r teledu, cyn cael ei benodi'n olygydd Radio Cymru yn 1995. Arweiniodd y tîm a sefydlodd wefan Gymraeg gyntaf y BBC, Cymru'r Byd.

Ar ôl gadael y swydd yn 2006,[2] sefydlodd gwmni Goriad gyda'i wraig Afryl. Gweithiodd y cwmni ar nifer o gynyrchiadau teledu a radio, gan gynnwys y rhaglen wythnosol Bore Sul i Radio Cymru.[3]

Bywyd personol golygu

Roedd yn briod ag Afryl ac yn byw yng Nghaerdydd; mae ganddynt fab a merch, sef y newyddiadurwr Gwenllian Glyn a'r actor Gruffudd Glyn.

Marwolaeth a theyrngedau golygu

Aeth ar goll Nos Galan 2022. Roedd wedi mynd allan am dro yn ardal Pontcanna ar y nos Sadwrn. Gwnaed apêl am wybodaeth ar ddydd Sul, Dydd Calan gyda manylion yn cael ei ledu ar y cyfryngau cymdeithasol.[4] Bu'r heddlu a gwirfoddolwyr yn chwilio amdano am rai diwrnodau. Darganfuwyd ei gorff ym Mae Caerdydd ar ddydd Mercher, 4 Ionawr 2023.[5]

Talwyd teyrngedau iddo gan lawer. Dywedodd Dylan Iorwerth ei fod wedi dechrau gweithio gyda Aled "fwy neu lai’r un pryd yn adran newyddion Radio Cymru ac roedd o’n chwa o awyr iach o fewn y BBC... wedi ei drwytho mewn newyddiaduraeth gan ei dad, T. Glynne Davies, ac wedyn radio masnachol, roedd yn credu yn angerddol ym mhwysigrwydd pobol ac mewn creu deunydd poblogaidd yn Gymraeg."

Dywedodd Cyfarwyddwr BBC Cymru Rhuanedd Richards, "Roedd Aled yn olygydd arloesol, egnïol ac angerddol yn ystod ei gyfnod wrth y llyw yn arwain BBC Radio Cymru rhwng 1995 a 2006... Ei nod bob amser oedd creu cynnwys a fyddai’n denu siaradwyr Cymraeg newydd i’r gwasanaeth, a sicrhau fod yr orsaf yn apelio at fwy o bobol iau".

Cafwyd teyrnged gan Huw Edwards yn dweud "Newyddion torcalonnus. Roedd Aled yn gynhyrchydd ac yn newyddiadurwr o allu sylweddol. Roedd hefyd yn berson hael a charedig. Colled enfawr i’w deulu a’i gyfeillion".[6]

Mewn erthygl, ysgrifennodd Vaughan Roderick am ei atgofion cynnar o Aled pan ddaeth ato ar iard ysgol Bryntaf a chynnig bod yn ffrindiau. Yn yr 1980au cynnar gweithiodd y ddau ar orsaf radio masnachol Darlledu Caerdydd ac yna ar wasanaeth newyddion y BBC. Dywedodd mai Aled oedd "golygydd mwyaf beiddgar Radio Cymru gan drawsnewid cawlach o raglenni hen ffasiwn yn orsaf fodern, lyfn, tebyg iawn i'r hyn yw hi heddiw."[7]

Cyfeiriadau golygu

  1. "Mewngofnodi neu Greu Cyfrif i Weld Hyn". www.facebook.com. Cyrchwyd 2023-11-26.
  2.  BBC Radio Cymru editor resigns. Radio Today (1 Mawrth 2006).
  3.  Gwefan Cwmni Goriad. goriad (2022-04-23).
  4. Apêl teulu am wybodaeth wedi diflaniad Aled Glynne Davies yng Nghaerdydd , Newyddion S4C, 2 Ionawr 2023. Cyrchwyd ar 4 Ionawr 2023.
  5. Darganfod corff cyn-olygydd BBC Radio Cymru Aled Glynne Davies , Newyddion S4C, 4 Ionawr 2023.
  6. “Arloesol, egnïol ac angerddol”: Teyrngedau i gyn-olygydd Radio Cymru Aled Glynne Davies , Golwg360, 4 Ionawr 2023. Cyrchwyd ar 5 Ionawr 2023.
  7. Aled Glynne Davies: 'Golygydd mwyaf beiddgar Radio Cymru' , BBC Radio Cymru, 4 Ionawr 2023. Cyrchwyd ar 5 Ionawr 2023.