Gareth Glyn
Cyfansoddwr a darlledwr o Gymru yw Gareth Glyn (ganwyd Gareth Glynne Davies; 2 Gorffennaf 1951). Ef yw mab hynaf y diweddar ddarlledwr a'r llenor T. Glynne Davies.
Gareth Glyn | |
---|---|
Ganwyd | Gareth Glynne Davies 2 Gorffennaf 1951 Machynlleth |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | cyfansoddwr, darlledwr |
Arddull | cerddoriaeth glasurol gyfoes |
Tad | T. Glynne Davies |
Gwefan | http://garethglyn.info |
Bywyd cynnar ac addysg
golyguGanwyd Glyn yn Machynlleth a mynychodd Ysgol Maes Garmon yn yr Wyddgrug.[1] Graddiodd mewn Cerddoriaeth o Goleg Merton, Rhydychen, 1969 - 72, gan arbenigo mewn cyfansoddi, ac mae'n dal LRAM fel Cyfansoddwr o'r Academi Gerdd Frenhinol.
Gyrfa
golyguDros ddeng mlynedd ar hugain, mae wedi cyfansoddi'n helaeth ar gyfer sawl gyfrwng, o'r symffoni fwyaf i ganeuon pop, o'r neuadd gyngerdd i'r sgrîn deledu.
Ymhlith yr enwogion roddodd berfformiadau cyntaf ei weithiau mae'r bariton byd-enwog Bryn Terfel, y gantores ifanc Charlotte Church, Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC, Cerddorfa Ulster, Cerddorfa Gyngerdd y BBC, yr organydd Jane Watts a nifer o rai eraill - gan gynnwys Jonathan Pryce mewn darn i lefarydd a cherddorfa gerbron cynulleidfa fyw o filoedd o bobol a gwylwyr teledu drwy'r byd. Mae Rhys Ifans wedi actio'r brif ran ym mherfformiadau cynta dwy ddrama gerdd gan Gareth Glyn.
Cafodd Gareth Glyn ei ddewis i gyfansoddi'r gerddoriaeth ar gyfer cynyrchiadau i deledu a ffilm, gan gynnwys y gyfres am hanes y genedl, Cymru 2000, y ffilm Madam Wen, a dramáu megis Tywyll Heno, seiledig ar y nofel gan Kate Roberts.
Mae llawer o'i waith diweddar wedi cael ei berfformio, ei recordio a'i gynhyrchu gan y cyfansoddwr ei hun yn ei stiwdio ar Ynys Môn; mae'n arbenigo ar ail-greu seiniau'r gerddorfa a'i hofferynnau gan ddefnyddio'r dulliau technolegol diweddaraf.
Ym mis Hydref 2012, cyhoeddwyd y byddai yn gadael y rhaglen newyddion Post Prynhawn ar BBC Radio Cymru wedi 34 blynedd.[2]
Bywyd personol
golyguMae Gareth Glyn yn byw ym Modffordd, ger Llangefni, gyda'i wraig Eleri Cwyfan. Mae ganddynt ddau fab, sef y darlithydd Peredur Glyn Webb-Davies a'r perfformiwr Seiriol Davies.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Castle yn cyd-ddathlu gydag ysgol hanesyddol. BBC Cymru.
- ↑ Gareth Glyn i roi'r gorau i gyflwyno'r Post Prynhawn. BBC (5 Hydref 2012). Adalwyd ar 8 Hydref 2012.