Rhuanedd Richards

newyddiadurwr a darlledydd o Gymraes

Newyddiadurwr a darlledwr yw Rhuanedd Richards (ganed 1974) sy'n Gyfarwyddwr BBC Cymru ar hyn o bryd.

Rhuanedd Richards
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethnewyddiadurwr, darlledwr Edit this on Wikidata

Bywyd personol ac addysg

golygu

Fe'i magwyd yng Nghwm Cynon, yn ferch i'r Barnwr Philip Richards a Dot oedd yn weithiwr cymdeithasol.

Astudiodd yn Ysgol Gyfun Rhydfelen cyn mynd ymlaen i Brifysgol Cymru Aberystwyth i astudio gwleidyddiaeth. Bu'n Llywydd Undeb y Myfyrwyr yn ystod ei chyfnod yn Aberystwyth. Mae'n byw ym Mhontypridd gyda'i theulu erbyn hyn; mae'n briod â'r newyddiadurwr Stephen Fairclough ac mae ganddynt fab a merch.

Dechreuodd ei gyrfa fel newyddiadurwr gyda'r BBC, ac roedd yn wyneb cyfarwydd yn cyflwyno rhaglenni gwleidyddol yn y ddwy iaith yn nyddiau cynnar Senedd Cymru. Yn 2007, gadawodd y BBC i fynd yn gynghorydd arbennig yn Llywodraeth Cymru adeg clymblaid Cymru'n Un. Yn dilyn etholiad 2011 a diwedd y glymblaid, fe'i penodwyd yn Brif Weithredwr Plaid Cymru, gan olynu Gwenllian Lansdown yn y swydd. Yn 2017, fe'i penodwyd yn gynghorydd arbennig i Lywydd y Senedd, Elin Jones.

Yn 2018, dychwelodd i'r BBC fel Golygydd BBC Radio Cymru, gan olynu Betsan Powys yn y swydd. Roedd hefyd yn gyfrifol am wefan newyddion BBC Cymru Fyw. Fe'i penodwyd yn Gyfarwyddwr Cynnwys BBC Cymru yn 2021, ac mae bellach yn Gyfarwyddwr BBC Cymru, yn dilyn dyrchafiad Rhodri Talfan Davies yn Gyfarwyddwr y Cenhedloedd i'r BBC.[1][2]

Mae hefyd yn aelod o Gyngor Prifysgol Aberystwyth ers 2020.[3]

Derbyn i'r Orsedd

golygu

Derbyniwyd Rhuanedd i'r Orsedd yn 2024 ym mro ei mebyd ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol Cymru Rhondda Cynon Taf 2024 ym Mhontypridd. Cafodd ei derbyn yn y Wisg Las.[4]

Cyfeiriadau

golygu
  1.  Rhuanedd Richards, Cyfarwyddwr BBC Cymru. BBC (2022-05-07).
  2.  Plaid Cymru’s new chief executive reveals her vision for the party. Daily Post (2022-05-07). (Saesneg)
  3.  Prifysgol Aberystwyth yn croesawu aelodau newydd i’r Cyngor. Prifysgol Aberystwyth (2022-05-07).
  4. "Eisteddfod 2024: Cyhoeddi rhestr anrhydeddau'r Orsedd". BBC Cymru Fyw. 20 Mai 2024.