Alex Garland
Nofelydd a sgriptiwr o Loegr yw Alex Garland (ganed 1970).
Alex Garland | |
---|---|
Ganwyd | Alexander Medawar Garland 26 Mai 1970 Llundain |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig |
Alma mater | |
Galwedigaeth | llenor, sgriptiwr, nofelydd, cyfarwyddwr ffilm, cynhyrchydd ffilm, sgriptiwr ffilm, awdur teledu, cyfarwyddwr teledu |
Tad | Nicholas Garland |
Mam | Caroline Medawar Garland |
Priod | Paloma Baeza |
Mae'n fab i'r cartŵnydd gwleidyddol Nick (Nicholas) Garland. Mynychodd yr ysgol annibynnol University College School, yn Hampstead, Llundain, cyn mynd i Brifysgol Manceinion i astudio hanes celf.
Cyhoeddwyd ei nofel gyntaf The Beach, a soniai am ei brofiadau tra'n teithio ym 1996. Daeth y nofel hwn yn glasur cwlt a chafodd ei wneud yn ffilm gan y cyfarwyddwr Danny Boyle. Serennodd Leonardo DiCaprio yn y ffilm.
Cyhoeddwyd ail nofel Garland The Tesseract ym 1998. Cafodd y nofel hon ei throsi'n ffilm yn serennu Jonathan Rhys Meyers. Yn 2003, ysgrifennodd y sgript ar gyfer ffilm Danny Boyle 28 Days Later. Cafodd ei drydedd nofel, The Coma ei chyhoeddi yn 2004.
Yn 2007, ysgrifennodd Garland y sgript ar gyfer y ffilm Sunshine - ei ail sgript i gael ei chyfarwyddo gan Danny Boyle ac i serennu Cillian Murphy fel y prif gymeriad. Gweithiodd Garland fel uwch-gynhyrchydd 28 Weeks Later, sef y dilyniant i 28 Days Later.
Ei bartner yw'r actores / cyfarwyddwr Paloma Baeza.
Gwobrau ac enwebiadau
golygu- 2004: Enwebwyd am Saturn Award gan yr Academi at gyfer Ffilmiau Gwyddonias, Ffantasi ac Arswyd, UDA: Ysgrifennu ar gyfer 28 Days Later
- 2004: Enwebwyd am Chlotrudis Awards 2004: Sgript Wreiddiol Orau am 28 Days Later