Sunshine (ffilm 2007)

Mae Sunshine yn ffilm wyddonias Brydeinig a gyfarwyddwyd gan Danny Boyle ac a ysgrifennwyd gan Alex Garland. Sonia'r ffilm am griw llong ofod wrth iddynt fynd ar daith beryglus tua'r haul yn y flwyddyn 2057. Mae'r ddaear mewn perygl wrth i'r haul losgi ei hun yn ddim ac felly danfonir y criw er mwyn ail-gynnau'r haul gan ddefnyddio dyfais niwclear enfawr. Mae cast y ffilm yn cynnwys Cillian Murphy, Rose Byrne, Cliff Curtis, Chris Evans, Troy Garity, Hiroyuki Sanada, Benedict Wong a Michelle Yeoh.

Sunshine

Poster y Ffilm
Cyfarwyddwr Danny Boyle
Cynhyrchydd Andrew Macdonald
Ysgrifennwr Alex Garland
Serennu Cillian Murphy
Rose Byrne
Cliff Curtis
Chris Evans
Troy Garity
Hiroyuki Sanada
Benedict Wong
Michelle Yeoh
Cerddoriaeth John Murphy
Underworld
Sinematograffeg Alwin H. Kuchler
Golygydd Chris Gill
Dylunio
Cwmni cynhyrchu Fox Searchlight Pictures
Dyddiad rhyddhau DU
6 Ebrill, 2007
UDA
20 Gorffennaf, 2007
Amser rhedeg 107 munud
Gwlad Y Deyrnas Unedig
Iaith Saesneg
Gwefan swyddogol
(Saesneg) Proffil IMDb

Boyle, sy'n fwyaf adnabyddus am ffilmiau megis Trainspotting a 28 Days Later gyfarwyddodd y ffilm. Dewisodd y cyfarwyddwr gast o actorion rhyngwladol ar gyfer y ffilm a bu'r actorion yn cyd-fyw â'i gilydd ac yn dysgu am bynciau a oedd yn ymwneud â'u rôlau, fel modd o actio dull. Er mwyn i'r actorion ymateb yn realistig i'r effeithiau gweledol a fyddai'n cael eu hychwanegu ar ôl y broses gynhyrchu, crëodd y gwneuthurwyr ffilm setiau y byddai'r actorion yn ymateb iddynt.

Eginyn erthygl sydd uchod am ffilm. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.