Alexander Bassano

Ffotograffydd o Loegr oedd Alexander Bassano (1 Mai 1829 - 21 Hydref 1913). Cafodd ei eni yn Llundain yn 1829 a bu farw yn Llundain. Ei ffotograff fwyaf enwog oedd yr un o'r Iarll Kitchener a defnyddiwyd yn y posteri recriwtio Lord Kitchener Wants You yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf.

Alexander Bassano
Ganwyd1 Mai 1829 Edit this on Wikidata
Llundain Edit this on Wikidata
Bu farw21 Hydref 1913 Edit this on Wikidata
Llundain Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Lloegr Lloegr
Galwedigaethffotograffydd Edit this on Wikidata

Bywgraffiad

golygu

Roedd Alessandro Bassano yn blentyn i'r gwerthwr pysgod Eidalaidd Clemente Bassano, a'i wraig Seisnig, Elizabeth Browne. Yn ddiweddarach Seisnigodd sillafiad ei enw cyntaf i Alexander.[1]

Derbyniodd Bassano hyfforddiant artistig cynnar gyda'r artistiaid Augustus Egg a William Beverley. Agorodd ei stiwdio gyntaf yn Regent Street ym 1850. Yna symudodd y stiwdio i Piccadilly 1859-1863. O Picadilly symudodd i Pall Mall ac yna i 25 Old Bond Street ym 1877. Hefyd roedd gan Bassano stiwdio cangen yn 132 King's Road, Brighton o 1893 i 1899.[1]

Roedd stiwdio Old Bond Street wedi'i addurno gyda phrintiau ffotograffig carbon a phenddelwau plastr, ac roedd yn ddigon mawr i ddarparu lle i gefndiroedd panoramig 80 troedfedd o hyd wedi'i osod ar roleri, a oedd yn darparu amrywiaeth o olygfeydd awyr agored neu gefndiroedd llys. Ymysg y bobl bu Bassano yn tynnu ffotograffau portread ohonynt oedd y Prif Weinidog William Ewart Gladstone y Frenhines Victoria a Cetshwayo kaMpande. Portread o ben yr Arglwydd Kitchener Bassano gan Bassano oedd sail y poster recriwtio Rhyfel Byd Lord Kitchener Wants You. Ymddeolodd Bassano o'r gwaith yn y stiwdio tua 1903, pan adnewyddwyd yr adeilad yn helaeth a'i ail-lansio fel Bassano Ltd, Royal Photographers.

Symudodd y stiwdio unwaith eto ym 1921: symudiad a ysgrifennwyd gan y cylchgrawn Lady's Pictorial ar y pryd. Adroddodd yr erthygl am fodolaeth miliwn o negatifau, a oedd wedi'u rhifo'n systematig, y bu'n rhaid eu symud o seleri'r adeilad i'r lleoliad newydd yn 38 Stryd Dover. Daeth y cwmni yn "Bassano a Vandyk" ym 1964. Y flwyddyn ganlynol ymgorfforodd Elliott & Fry, partneriaeth ffotograffig a oedd wedi bod yn rhedeg yn Stryd Baker ers 1863. Ym 1977, daeth y cwmni yn "Industrial Photographic", yn 35 Stryd Moreton, Llundain SW1.[2]

Mae nifer o blatiau gwydr o Stiwdio Bassano, gan gynnwys rhai gan Alexander Bassano ei hun, yn yr Oriel Portread Genedlaethol, Llundain. Mae gan Amgueddfa Llundain nifer fawr o'r platiau sy'n gysylltiedig â ffasiwn.

Cynhaliodd yr Oriel Bortreadau Genedlaethol arddangosfa o'i waith, Alexander Bassano: Victorian Photographer yn 2013, canmlwyddiant ei farwolaeth.[3]

Bywyd personol

golygu

Priododd Adelaide (née Lancaster) ym 1850. Bu iddynt fab, Clement George Alexander, a dwy ferch, Adelaide Fanny Louise a Camilla Teresa.

Bu farw yn Llundain yn 84 mlwydd oed a chladdwyd ei weddillion ym mynwent Kensal Green.[4]

Mae yna enghreifftiau o waith Alexander Bassano yng nghasgliad portreadau Llyfrgell Genedlaethol Cymru a hefyd yng nghasgliad Yr Oriel Bortreadau Genedlaethol yn Llundain.

Dyma ddetholiad o weithiau gan Alexander Bassano:

Cyfeiriadau

golygu
  1. 1.0 1.1 Hannavy, John (2013). Encyclopedia of Nineteenth-Century Photography. Routledge. p. 117. ISBN 9781135873271
  2. Prifysgol Caergrawnt Bassano, Alexander, 1829-1913, photographer Archifwyd 2018-09-30 yn y Peiriant Wayback adalwyd 6 Hydref 2019
  3. Past display archive Alexander Bassano: Victorian Photographer adalwyd 6 Chwefror 2019
  4. Find a Grave - Alexander Bassano adalwyd 6 Chwefror 2019