Alexandr Pushkin
Bardd a llenor Rwsaidd oedd Alexandr Sergeyevich Pushkin (Rwsieg: Алекса́ндр Серге́евич Пу́шкин) (6 Mehefin 1799 – 10 Chwefror 1837). Ystyrir ef yn fardd mwyaf Rwsia.
Alexandr Pushkin | |
---|---|
Ffugenw | Александр НКШП, Иван Петрович Белкин, Феофилакт Косичкин, P., Ст. Арз. (Старый Арзамасец), А. Б. |
Ganwyd | 26 Mai 1799 (yn y Calendr Iwliaidd) Moscfa |
Bu farw | 29 Ionawr 1837 (yn y Calendr Iwliaidd) o anaf balistig St Petersburg |
Man preswyl | Simferopol, Chişinău, Odesa, Moscfa, Yaropolets, Moscfa, Nizhniy Novgorod, Kazan’, Layış, Ulyanovsk, Ulyanovsk, Yazykov Estate Park, Yazykovo, Ulyanovsk, Orenburg, Saratov, Penza, Yazykov Estate Park, Yazykovo, Bolshoye Boldino, St Petersburg, St Petersburg |
Dinasyddiaeth | Ymerodraeth Rwsia |
Alma mater | |
Galwedigaeth | bardd, rhyddieithwr, dramodydd, beirniad llenyddol, cyfieithydd, hanesydd, nofelydd, libretydd, casglwr llyfrau, gohebydd gyda'i farn annibynnol, ysgrifennwr, awdur plant, dramodydd, awdur ysgrifau, bretter, awdur |
Swydd | member of Filiki Etería |
Adnabyddus am | Eugene Onegin, The Captain's Daughter, Boris Godunov, Ruslan and Ludmila, The Prophet, The Tale of the Priest and of His Workman Balda, The Tale of the Fisherman and the Fish, The Tale of the Dead Princess and the Seven Knights, The Tale of the Golden Cockerel |
Arddull | rhyddiaith, newyddiadurwr gyda barn, criticism, nofel hanesyddol, verse novel, robber novel, nofel fer, stori dylwyth teg, drama |
Prif ddylanwad | John Keats, Voltaire, Dante Alighieri, Johann Wolfgang von Goethe, Friedrich Schiller, William Shakespeare, George Gordon Byron, Percy Bysshe Shelley |
Mudiad | Rhamantiaeth |
Tad | Sergey Pushkin |
Mam | Nadezhda Pushkina |
Priod | Natalia Pushkina |
Plant | Maria Pushkina, Natalya Alexandrovna Pushkina, Alexander Alexandrovich Pushkin, Grigory Aleksandrovich Pushkin |
llofnod | |
Bywgraffiad
golyguGaned ef ym Moscow, a chyhoeddodd ei gerdd gyntaf pan oedd yn bymtheg oed. Addysgwyd ef yn y Lyceum Ymerodrol yn Tsarskoe Selo. Roedd o blaid newidiadau cymdeithasol, a daeth i wrthdrawiad a'r llywodraeth yn nechrau'r 1820au. Alltudiwyd ef i dde Rwsia, a thra yno ysgrifennodd ei ddrama enwocaf, Boris Godunov, er na allodd ei chyhoeddi am rai blynyddoedd. Cyhoeddodd ei nofel farddonol Eugene Onegin rhwng 1825 a 1832.
Priododd Pushkin Natalya Goncharova yn 1831, a daethant yn rhan o'r llys ymerodrol yn St. Petersburg. Yn 1837, roedd sibrydion fod Natalya wedi dechrau carwriaeth a Georges d'Anthès. Rhoddodd Pushkin sialens iddo i ymladd, ond clwyfwyd Pushkin yn ddifrifol yn yr ornest a bu farw ddau ddiwrnod yn ddiweddarach.
Gwaith llenyddol
golyguBarddoniaeth
golygu- 1820 – Ruslan a Ludmila (Руслан и Людмила).
- 1820–21 – Kavkazsky plennik (Кавказский пленник) ("Carcharor y Caucasus").
- 1821 Gavriiliada (Гавриилиада) ("Y Gabrieliad").
- 1821–22 – Bratya razboyniki (Братья разбойники) ("Y lleidr-frodyr").
- 1823 – Bakhchisaraysky fontan (Бахчисарайский фонтан) ("Ffynnon Bakhchisaray").
- 1824 – Tsygany (Цыганы) ("Y Sipsiwn").
- 1825 – Graf Nulin (Граф Нулин) ("Cownt Nulin").
- 1829 – Poltava (Полтава) ("Poltava").
- 1830 – Domik v Kolomne (Домик в Коломне) (Y Tŷ bychan yn Kolomna").
- 1833 – Medny vsadnik (Медный всадник) ("Y Marchog Efydd").
Nofel farddonol
golygu- 1825-32 – Yevgyeny Onyegin (Евгений Онегин) (Eugene Onegin).
Cyfieithiadau i'r Gymraeg
golygu- Pedair Drama Fer o'r Rwseg (Tri awdur), cyfieithwyd gan T. Hudson Williams. Cymdeithas Lyfrau Ceredigion, 1964.
- 'Y Marchogion' (Medny vsadnik Медный всадник 1833).
- 'Don Juan' (Алекса́ндр Серге́евич Пу́шкин).