Alfred Brothers

Ffotograffydd Seisnig

Ffotograffydd o Loegr oedd Alfred Brothers (2 Ionawr 1826 - 26 Awst 1912). Cafodd ei eni yn Sheerness yn 1826 a bu farw yn Handforth, Swydd Gaer.[1]

Alfred Brothers
Ganwyd2 Ionawr 1826 Edit this on Wikidata
Sheerness Edit this on Wikidata
Bu farw26 Awst 1912 Edit this on Wikidata
Handforth Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Y Deyrnas Unedig Y Deyrnas Unedig
Galwedigaethffotograffydd Edit this on Wikidata

Bywgraffiad

golygu

Ganwyd Brothers yn Sheerness, Swydd Kent yn fab i John Brothers, fferyllydd a Caroline ei wraig. Bu'n gweithio fel clerc i adeiladwr cyn priodi.[2] Ar 8 Mehefin 1853 priododd Louisa Buck merch Geiorge Buck, bonheddwr yn Eglwys All Saints, Maidstone.[3] Wedi priodi symudodd i Fanceinion i weithio fel gwerthwr yswiriant.[4]

Ers ei ieuenctid bu ganddo ddiddordeb byw mewn ffotograffiaeth a seryddiaeth. Ym 1855 rhoddodd gorau i'w swydd fel gwerthwr yswiriant ac agorodd stiwdio ffotograffiaeth yn St Anne's Square, Manceinion. Ym 1857 bu'n ffotograffydd i'r Arddangosfa Trysorau'r Celfyddydau ym Manceinion gan dynnu lluniau o ymweliad y Frenhines Fictoria a'r Tywysog Albert i'r arddangosfa.

Ym 1864 dyfeisiodd modd i ddefnyddio rhuban o fagnesiwm i greu golau artiffisial ar gyfer tynnu lluniau. Caniataodd y rhuban iddi i dynnu'r ffotograffau tan ddaear gyntaf yng nglofa Blue John Swydd Derby.[5]

Yn ogystal â gwneud bywoliaeth o dynnu lluniau portread bu'n arbenigo mewn ffotograffau o adeiladau hanesyddol a ffotograffau o'r sêr a'r lleuad. Cyhoeddodd llyfr o ffotograffau hen adeiladau Views of Old Manchester ym 1875 a chafodd ei ddilyn ym 1878 gan lyfr o adeiladau newydd y ddinas Views of Modern Manchester. Ym 1870 aeth ar daith a noddwyd gan Lywodraeth Y DU i astudio diffyg ar yr haul gan lwyddo i fod yr un cyntaf i dynnu llun ffotograffig o gorona'r haul gan gynorthwyo gwyddonwyr i wella eu dealltwriaeth o'r ffenomenon.[6]

Ym 1892 cyhoeddodd gwerslyfr o’r enw Photography: its History, Processes, Appararatus and Material

Mae yna enghreifftiau o waith Alfred Brothers yng nghasgliad portreadau Llyfrgell Genedlaethol Cymru a hefyd yng nghasgliad Yr Oriel Bortreadau Genedlaethol yn Llundain.

Dyma ddetholiad o weithiau gan Alfred Brothers:

Cyfeiriadau

golygu
  1. Nottingham journal 27 Awst 1912 tud 4 Colofn 3 Obituary
  2. Yr Archif Genedlaethol, cyfrifiad 1851, Bower Lane, Maidstone, Kent. Cyfeirnod HO107/Rhif 1617 / Ffolio 290/ Tud 51
  3. Cofnodion priodas Eglwys All Saints, Maidstone 1853
  4. National Portrait Gallery - Alfred Brothers adalwyd 6 Chwefror 2019
  5. Encyclopedia of Nineteenth-Century Photography adalwyd 6 Chwefror 2019
  6. Yorkshire Post and Leeds Intelligencer 27 Awst 1912 Obituary