A. E. Housman

ysgolhaig a bardd clasurol Prydeinig (1859-1936)
(Ailgyfeiriad o Alfred Edward Housman)

Bardd ac ysgolhaig y clasuron o Loegr oedd Alfred Edward Housman (26 Mawrth 185930 Ebrill 1936). Ei gerddi enwocaf yw'r cylch A Shropshire Lad. Pesimistiaeth Ramantaidd a fynegir gan ei farddoniaeth, mewn arddull syml a chynnil.[1]

A. E. Housman
FfugenwA. E. Housman Edit this on Wikidata
Ganwyd26 Mawrth 1859 Edit this on Wikidata
Swydd Gaerwrangon, Ardal Bromsgrove Edit this on Wikidata
Bu farw30 Ebrill 1936 Edit this on Wikidata
Caergrawnt Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethy Deyrnas Unedig, Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethbardd, ieithegydd clasurol, llenor, academydd, ysgolhaig clasurol Edit this on Wikidata
Cyflogwr
Adnabyddus amY Llanc o Sir Amwythig Edit this on Wikidata
Arddulltelyneg Edit this on Wikidata
llofnod

Ganwyd Housman yn Fockbury ger Bromsgrove, Swydd Gaerwrangon. Bu farw ei fam ar ei benblwydd yn 12 oed, sy'n debyg yn un o wreiddiau'r besimistiaeth yn ei farddoniaeth. Astudiodd yng Ngholeg Sant Ioan, Rhydychen. Sylweddolodd ei fod yn gyfunrywiol a bu'n cwympo mewn cariad ag un o'i gyfeillion. Er yr oedd yn ysgolhaig medrus, methodd ei arholiadau a ni enillodd ei radd.

Cerflun o A. E. Housman yn Bromsgrove, Swydd Gaerwrangon

O 1882 hyd 1892 gweithiodd fel clerc yn y Swyddfa Batent yn Llundain. Yn y nos bu'n astudio testunau Lladin yn narllenfa'r Llyfrgell Brydeinig. Ysgrifennodd erthyglau a gyhoeddwyd mewn cyfnodolion, ac chafodd ei benodi'n athro Lladin yng Ngholeg Prifysgol, Llundain, ym 1892.

Enciliodd Housman yn emosiynol wrth iddo deimlo bu'n rhaid iddo fyw heb gariad. Dechreuodd ysgrifennu cerddi gydag ysbrydoliaeth gan Heinrich Heine, Shakespeare a baledi gororau'r Alban. Cafodd y cerddi hyn eu cyhoeddi fel A Shropshire Lad ym 1896.

Cafodd ei benodi'n athro Lladin ym Mhrifysgol Caergrawnt ym 1911. Ei gampwaith fel Lladinwr oedd argraffiad anodiadol o farddoniaeth Manilius (1903–30).

Cyfeiriadau

golygu
  1. (Saesneg) A.E. Housman. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 23 Ebrill 2016.