Y Llanc o Sir Amwythig
Cylch o 63 o gerddi gan A. E. Housman (1859–1936) yw Y Llanc o Sir Amwythig (Saesneg: A Shropshire Lad) a gyhoeddwyd gyntaf yn Saesneg ym 1896. Ymhlith y cerddi mwyaf adnabyddus yn y llyfr y mae "I Fabolgampwr yn Marw'n Ifanc", "Mae'r geirioswydden, brydferth bren" ac "A mi yn un-ar-hugain".
Enghraifft o'r canlynol | gwaith ysgrifenedig |
---|---|
Awdur | A. E. Housman |
Gwlad | Lloegr |
Iaith | Saesneg |
Dyddiad cyhoeddi | 1896 |
Genre | barddoniaeth |
Olynwyd gan | Last Poems |
Statws hawlfraint | parth cyhoeddus |
Gwladwriaeth | y Deyrnas Unedig |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Cyfieithwyd y cylch i'r Gymraeg gan J. T. Jones o Fangor ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol Cymru Caerdydd 1938, a chyhoeddwyd ei drosiad gan Wasg Gee ym 1939.
Rhai o'r cerddi yn y casgliad
golygu- II. "Mae'r geirioswydden, brydferth bren" ("Loveliest of trees, the cherry now")
- XIII. "A mi yn un-ar-hugain" ("When I was one-and-twenty")
- XIX. "I Fanolgampwr yn Marw'n Ifanc" ("To an Athlete Dying Young")
- XXIII. "Mae'r hogiau yn dod i ffair Lwydlo" ("The lads in their hundreds")
- XXXI. "Mawr yw gwewyr Coedydd Gweunllwg" ("On Wenlock Edge the wood's in trouble")
- XXXII. "O bell, o hwyr a bore" ("From far, from eve and morning")
- XL. "I mewn i'm bron rhyw farwol wynt" ("Into my heart an air that kills")