Alfred Schutz
Cymdeithasegydd ac athronydd o Awstria oedd Alfred Schutz (13 Ebrill 1899 – 20 Mai 1959) a ddatblygodd syniadaeth gymdeithasol yn seiliedig ar ffenomenoleg.
Alfred Schutz | |
---|---|
Ganwyd | 13 Ebrill 1899 Fienna |
Bu farw | 20 Mai 1959 Dinas Efrog Newydd |
Dinasyddiaeth | Awstria, Unol Daleithiau America |
Alma mater | |
ymgynghorydd y doethor | |
Galwedigaeth | athronydd, cymdeithasegydd, academydd, cerddolegydd, llenor |
Cyflogwr | |
Priod | Ilse Schutz |
Ganed yn Fienna, Awstria-Hwngari, i Alfred a Johann (Fialla) Schütz. Gwasanaethodd yn y fyddin Awstriaidd yn y Rhyfel Byd Cyntaf, ac astudiodd y gyfraith ac economeg ym Mhrifysgol Fienna. Cafodd swydd ysgrifennydd-weithredwr yng Nghymdeithas Bancwyr Awstria, ac yn 1929 dechreuodd weithio i'r banc Reitler. Priododd ag Ilse Heim yn 1926, a chawsant ddau blentyn.[1]
Yn sgil yr Anschluss yn 1938, ffoes Schultz a'i deulu i Baris, ac oddi yno ymfudasant i Unol Daleithiau America yn 1939. Yn Ninas Efrog Newydd, llwyddodd Schutz i ddal gafael ar ei swydd ym manc Reitler. Er na gweithiodd yn academydd llawn-amser, sefydlodd y cyfnodolyn Philosophy and Phenomenological Research yn 1940. Bu'n ddarlithydd ôl-raddedig yn yr Ysgol Newydd ar gyfer Ymchwil Cymdeithasol o 1943 hyd ddiwedd ei oes.[1] Bu farw yn Ninas Efrog Newydd yn 60 oed.[2] Cafodd ei waith ddylanwad mawr ar ddatblygiad ethnomethodoleg.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 (Saesneg) "Schutz, Alfred 1899-1959" yn Contemporary Authors. Adalwyd ar Encyclopedia.com ar 27 Chwefror 2020.
- ↑ (Saesneg) Alfred Schutz. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 27 Chwefror 2020.
Darllen pellach
golygu- Michael D. Barber, The Participating Citizen: A Biography of Alfred Schutz (Albany, Efrog Newydd: State University of New York Press, 2004).