Alice Lee Moqué
Ffeminist Americanaidd oedd Alice Lee Moqué (née Hornor; 20 Hydref 1861 - 16 Gorffennaf 1919[1]) sy'n cael ei hystyried yn nodigedig am ei gwaith fel awdur, teithiwr, gohebydd, ffotograffydd, ymgyrchydd dros bleidlais i ferched a seiclwr cystadleuol.[2][3]
Alice Lee Moqué | |
---|---|
Ganwyd | Alice Lee Horner 20 Hydref 1861 New Orleans |
Bu farw | 16 Gorffennaf 1919 Washington |
Man preswyl | New Orleans, Philadelphia, Washington |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America |
Galwedigaeth | llenor, teithiwr, gohebydd, ffotograffydd, ymgyrchydd dros bleidlais i ferched, seiclwr cystadleuol |
Swydd | Is-lywydd |
Tad | Charles W. Hornor |
Plant | Walter O. Snelling |
Chwaraeon |
Fe'i ganed yn New Orleans, Unol Daleithiau America a bu farw yn Washington; fe'i claddwyd ym Mynwent y Gynghres lle nodir ei dyddiad geni fel 1861. Mae Who's Who, 1916 yn nodi ei dyddiad geni fel 20 Hydref 1865, fodd bynnag.[1]
Ysgrifennodd deithlyfr a gyhoeddwyd yn 1914, sef Delightful Dalmatia, sef cofnod o'i theithiau drwy Dalmatia ychydig cyn y Rhyfel Byd Cyntaf. Cafodd ei hethol i Gynghrair Menywod Pen yn 1915.
Magwraeth a phriodas
golyguRoedd Alice Lee Horner yn ferch i'r Barnwr Charles West Hornor, cyfreithiwr a diddymwr caethwasaeth o deulu o grynwyr o Philadelphia, a'i ail-wraig Sarah Elizabeth Smith o Augusta, Georgia. Ganwyd Alice Lee Horner yn New Orleans, Louisiana yn ystod Rhyfel Cartref America.[4]
Digwyddodd priodas gyntaf Alice "tra yn ei harddegau ac yn dal i fod yn ferch ysgol." Priododd Walter Comonfort Snelling (1859–1893) ar 20 Hydref 1879 yn Washington, D.C. Roedd hi naill ai'n 13 oed neu'n ddeunaw; efallai y bu ymdrech i guddio'r ffaith iddi briodi mor ifanc yn amwyster y dyddiadau geni (gw. uchod). Dyfeisiwr oedd Snelling a oedd wedi patentu peiriant adio. Cawsant o leiaf dri mab: y fferyllydd Walter Otheman Snelling (13 Rhagfyr 1880–1965), Henry H. Snelling, a Charles Hornor Snelling (1887-1907).
Mae'n debyg i Alice ymuno gyda chyrsiau prifysgol, gan gynnwys dwy flynedd o gyfraith a thair blynedd o feddyginiaeth. Roedd ganddi ddiddordeb mewn cemeg, a daeth yn ffotograffydd medrus, yn datblygu ffotograffau a gwneud platiau ei hun. Erbyn 1890 roedd hi'n cyhoeddi erthyglau ar dechneg ffotograffiaeth mewn cylchgronau ffotograffiaeth mawr megis Wilson's Photographic Magazine a The International Annual of Anthony's Photographic Bulletin, dan yr enw "A. Lee Snelling" ac "Alice Lee Snelling".[4][5][6][7]
Bu farw ei gŵr cyntaf, Walter Comonfort Snelling, ar 1 Grffennaf 1893, yn West Chester, Pennsylvania.
Aelodaeth
golyguBu'n aelod o Urdd yr Awduron, Cymdeithas Rieni Athrawon am rai blynyddoedd.
Anrhydeddau
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 Leonard, John William; Marquis, Albert Nelson (1916). "Moqué, Alice Lee (Mrs. John Oliver Moqué)". Who's who in America. 9. Chicago: A. N. Marquis & Company. tt. 1741–1742. Cyrchwyd 13 Mai 2016.
- ↑ "Moqué, Alice Lee, 1863-1919". Library of Congress Authorities. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 13 Mawrth 2017. Cyrchwyd 1 Mehefin 2016. Unknown parameter
|dead-url=
ignored (help) - ↑ "Congressional Cemetery Walking Tour" (PDF). Association for the Preservation of Historical Congressional Cemetery. Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 2015-09-05. Cyrchwyd 1 Mehefin 2016.
- ↑ 4.0 4.1 Wilson, Gertrude (9 Mawrth 1897). "A Bright Woman". Harrisburg Telegraph. t. 2. Cyrchwyd 3 Mehefin 2016.
- ↑ Snelling, A. Lee (19 Ebrill 1890). "What life and where?". Wilson's Photographic Magazine XXVII (368): 225–230. https://books.google.com/books?id=Q_TNAAAAMAAJ&pg=PA225. Adalwyd 5 Mehefin 2016.
- ↑ Snelling-Moqué, Alice Lee (1894–1895). "Mr. French's First Photo - The King of the Zoo Succumbs to Feminine Audacity". The International Annual of Anthony's Photographic Bulletin (E. & H.T. Anthony Company) 7: 121–124. https://books.google.com/books?id=1vRQAAAAYAAJ&pg=PA121. Adalwyd 5 Mehefin 2016.
- ↑ "TNT used in making novel photograph". The Gazette and Daily. 26 Rhagfyr 1942. t. 3. Cyrchwyd 5 Mehefin 2016.