Cerdd Sbaeneg hir gan y bardd Tsileaidd Vicente Huidobro yw Altazor; o, El viaje en paracaídas, a elwir gan amlaf yn Altazor, a gyhoeddwyd ar ffurf llyfr yn 1931. Ystyrir y gwaith hwn yn gampwaith Huidobro ac yn un o'r esiamplau gwychaf ym marddoniaeth yr avant-garde. Cerdd mewn saith caniad ydyw sy'n ymdrin â themâu marwolaeth a dirgelwch, ac yn fyfyrdod radicalaidd ar iaith a phwnc barddoniaeth. Cyflawnodd Huidobro y gwaith yn y cyfnod 1919–31.[1]

Altazor
Enghraifft o'r canlynolgwaith llenyddol Edit this on Wikidata
AwdurVicente Huidobro
CyhoeddwrCompañía Iberoamericana de Publicaciones (Madrid)
GwladTsile
IaithSbaeneg
Dyddiad cyhoeddi1931 Edit this on Wikidata
Dyddiad cyhoeddi1931
DarlunyddPablo Picasso
GenreBarddoniaeth

Yn y rhagair, mae'r adroddwr Altazor yn llunio dameg hiraethus ar gyfer hanes ei gwymp. Wedi'r trydydd caniad, mae Altazor yn diflannu mewn môr o eiriau sydd yn ceisio creu byd ieithyddol heb oddrych, trwy ddulliau chwarae ar eiriau a throellau ymadrodd. Casgliad o lafariaid ar hap ydy'r caniad olaf, sy'n cynrychioli drylliau parasiwt (paracaídas) toredig Altazor.[1]

Mae'r llyfr yn cynnwys portread o'r bardd gan Pablo Picasso. Er anrhydedd i Huidobro a'i waith, gelwir Gwobr Genedlaethol y Celfyddydau yn Tsile yn Wobr Altazor.

Cyfeiriadau

golygu
  1. 1.0 1.1 José Quiroga, "Altazor" yn Encyclopedia of Latin American and Caribbean Literature 1900–2003, golygwyd gan Daniel Balderston a Mike Gonzalez (Llundain: Routledge, 2004), t. 12.