Vicente Huidobro
Bardd, dramodydd, ac ysgrifwr o Tsile yn yr ieithoedd Sbaeneg a Ffrangeg oedd Vicente García Huidobro Fernández (10 Ionawr 1893 – 2 Ionawr 1948) a oedd yn llenor nodedig yr avant-garde yn llên America Ladin. Sefydlodd y mudiad esthetaidd creacionismo, sy'n pwysleisio dyletswyddau arbrofol y bardd. Ystyrir y gerdd hir Altazor (1931) yn gampwaith Huidobro.
Vicente Huidobro | |
---|---|
Ganwyd | Vicente García-Huidobro Fernández 10 Ionawr 1893 Santiago commune |
Bu farw | 2 Ionawr 1948 o gwaedlif ar yr ymennydd Cartagena |
Dinasyddiaeth | Tsile |
Alma mater | |
Galwedigaeth | bardd, llenor, newyddiadurwr, dramodydd |
Adnabyddus am | Altazor |
Arddull | barddoniaeth |
Plaid Wleidyddol | Sigma Party of Chile |
Mudiad | creacionismo |
Mam | María Luisa Fernández |
Perthnasau | Vicente García-Huidobro Santa Cruz |
llofnod | |
Bywyd cynnar (1893–1911)
golyguGanwyd Vicente García Huidobro Fernández i deulu aristocrataidd yn Santiago de Chile ar 10 Ionawr 1893. Roedd ei dad yn ddyn busnes a'i fam yn awdur a noddwraig y celfyddydau.[1] Cafodd ei addysgu mewn ysgolion preifat.[2]
Gyrfa gynnar yn Ne America (1911–17)
golyguCyhoeddodd ei gyfrol gyntaf o gerddi, Ecos del alma, yn 1911. Sefydlodd y cylchgrawn Musa Joven yn 1912, ac ynddo fe gyhoeddodd ei ymdrech gyntaf o farddoniaeth bictograffig, "Triángulo armónico", sy'n ymddangos hefyd yn ei gyfrol Canciones en la noche (1913) Yn y flwyddyn 1913 hefyd cyhoeddodd La gruta del silencio, perfformiwyd ei ddrama Cuando el amor se vaya yn Santiago, a chyd-sefydlodd y cylchgrawn Azul gyda Pablo de Rokha.[1]
Defnyddiodd arddull polemig o'r dechrau, er enghraifft yn ei lyfr Pasando y pasando (1914), sy'n lladd ar ysgolion yr Iesuwyr, offeiriaid yr Eglwys Gatholig, barddoniaeth Sbaeneg, a beirniad llenyddol o fri. Cafodd argraffiadau'r gwaith hwnnw eu cymryd gan yr awdurdodau, a llosgi gan aelodau ei deulu.[3] Bu hefyd yn denu sylw am ei ddatganiad llenyddol Non serviam (1914), sy'n gwrthod holl farddoniaeth yr oesoedd cynt, a draddodid ganddo yn yr Ateneo ("Y Ddarllenfa") yn Buenos Aires, a'i gasgliad o gerddi prôs, traethodau, a damhegion, Las pagodas ocultas (1914). Teithiodd yn ôl i Buenos Aires yn 1916 i ddarlithio ar bwnc barddoniaeth.[1][4]
Anterth ei yrfa (1917–44)
golyguAeth i Baris gyda'i deulu ifanc yn 1917. Yno ysgrifennodd i'r cylchgrawn Nord-Sud (1917–18), cyhoeddiad pwysicaf y mudiad ciwbiaeth. Yn ei waith, cyfunodd Huidobro dechnegau a ffurfiau arbrofol â chynnwys cythruddol a pholemig. Gwnaeth ddyfodolaeth yn destun sbort, ac arbrofodd â maniffestos celfyddydol. Cyfansoddodd gerddi gweledol yn debyg i calligrammes ei gyfaill Guillaume Apollinaire. Rhoddai'r enw creacionismo ar arddull ei hun, sy'n pwysleisio mynegiant ymreolus y bardd, trawsffurfiau ar gyfeireiriau a gramadeg, a delweddaeth a chysyniadaeth wreiddiol. Efelychwyd ei farddoniaeth gan feirdd Sbaenaidd megis Gerardo Diego a Juan Larrea, a datblygwyd y mudiad tebyg ultraísmo ym Madrid gyda chymorth Huidobro.[2]
Gyda chymorth yr arlunwyr ciwbiaidd Juan Gris a Pablo Picasso, dechreuodd Huidobro gyfansoddi barddoniaeth drwy gyfrwng y Ffrangeg. Cyhoeddodd nifer o gasgliadau Ffrangeg, gan gynnwys Horizon Carré (1917), Hallali (1918), Tour Eiffel (1918), Saisons choisies (1921), Tout à coup (1925), ac Automne régulier (1924). Cyhoeddodd hefyd gyfrolau o gerddi Sbaeneg, gan gynnwys Poemas árticos ac Ecuatorial (1918). Yn ogystal ag ymweld â'i famwlad, Tsile, yn aml, fe deithiodd i ddinasoedd eraill Ewrop, gan gynnwys Madrid a Zurich, a daeth yn gyfeillgar â nifer o enwau diwylliannol mawr y dydd, gan gynnwys Igor Stravinsky, Ezra Pound, Pablo Picasso, Tristan Tzara, a Naslav Nijinsky. Ym Mharis, ymddiddorai hefyd yn y theatr, ffilm, a chelf berfformio. Dywed iddo drefnu ffug-herwgipio ei hunan gan "asiantau imperialaidd Prydeinig" yn 1924, er mwyn hyrwyddo ei ysgrif wrth-Brydeinig Finis Britannia (1923).[3]
Yn 1931 cyhoeddodd Huidobro ei gampwaith, Altazor; o, El viaje en paracaídas, cerdd mewn saith caniad sy'n ymdrin â themâu marwolaeth a dirgelwch. Ystyrir y gwaith hwnnw yn un o'r esiamplau gwychaf ym marddoniaeth yr avant-garde. Ymhlith ei weithiau eraill mae'r ddrama Ffrangeg Gilles de Raíz (1932), y ddrama Sbaeneg En la luna (1934).[2]
Gweithgareddau gwleidyddol a milwrol (1932–44)
golyguDychwelodd Huidobro i Tsile yn 1932, ac ymunodd â'r Blaid Gomiwnyddol. Daeth yn aelod gweithgar yn y Ffrynt Poblogaidd (1937–41), clymblaid o bleidiau a grwpiau yr adain chwith a enillodd rym dan y radicalwr Pedro Aguirre Cerda yn etholiad arlywyddol 1938.[1]
Aeth Huidobro i Sbaen yn 1937 i frwydro ar ochr y Gweriniaethwyr yn Rhyfel Cartref Sbaen. Cyhoeddodd ddwy gyfrol o farddoniaeth yn 1941 a ellir eu hystyried yn esiamplau o'r ôl-avant-garde: Ver y palpar ac El ciudadano del olvido. Teithiodd i Ffrainc yn 1944 fel gohebydd rhyfel gyda lluoedd y Cynghreiriaid yn ystod yr Ail Ryfel Byd.[1]
Diwedd ei oes (1944–48)
golyguBu farw yn Cartagena o strôc yn 54 oed, ar 2 Ionawr 1948. Cyhoeddwyd ei gyfrol olaf o farddoniaeth, Últimos poemas (1948), wedi ei farwolaeth.[2]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 1.2 1.3 1.4 (Saesneg) Gérard De Cortanze, "Focus on Vicente Huidobro: Chronology" yn Review: Literature and Arts of the Americas cyfrol 15, rhifyn 30 (1981). Adalwyd ar Taylor & Francis Online ar 21 Mai 2019.
- ↑ 2.0 2.1 2.2 2.3 (Saesneg) Cedomil Goic, "Huidobro Fernández, Vicente (1893–1948)" yn Encyclopedia of Latin American History and Culture (Gale, 2008). Adalwyd ar Encyclopedia.com ar 21 Mai 2019.
- ↑ 3.0 3.1 José Quiroga, "Huidobro, Vicente" yn Encyclopedia of Latin American and Caribbean Literature 1900–2003, golygwyd gan Daniel Balderston a Mike Gonzalez (Llundain; Routledge, 2004), t. 268–9.
- ↑ (Saesneg) Vicente Huidobro. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 21 Mai 2019.
Darllen pellach
golygu- Mireya Camurati, Poesía y poética de Vicente Huidobro (Madrid: Cambeiro, 1980).
- René De Costa, Vicente Huidobro y el creacionismo (Madrid: Taurus, 1975).
- René De Costa, Vicente Huidobro: The Careers of a Poet (Rhydychen: Clarendon Press, 1984).
- Cedomil Goic, La poesía de Vicente Huidobro (1974).
- George Yúdice, Vicente Huidobro y la motivación del llenguaje (Buenos Aires: Galerna, 1978).