Altocumulus
Ffurfia'r altocumulus yn haenau torredig rhwng tua 6,500 a 18,000 troedfedd a cheir sawl math ohonynt. Un o'r ffurfiau mwyaf cyffredin yw nifer fawr o gymylau bychain crwn sydd bron â chyffwrdd ei gilydd, fel praidd o ddefaid yn llenwi'r awyr:
Enghraifft o'r canlynol | genera cwmwl |
---|---|
Math | Cwmwlws, mid-level cloud |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Disgrifiad
golyguGwasgarir y cymylau Altocumulus un ai yn ddi-batrwm fel praidd o ddefaid yn weddol glos at ei gilydd, neu yn rhesi cyfochrog taclus a ddisgrifir fel 'defaid yn dilyn eu llwybrau'. Gall y cymylau hyn ddwysáu nes i'r defaid unigol yn y rhesi glosio a chyffwrdd ei gilydd a chreu llinellau neu resi amlwg, tebyg i'r patrwm rhesog o grychau a welir ar dywod y traeth ar drai. Bryd hynny fe'u gelwir, yn 'draeth awyr' neu 'awyr draeth'. Ar yr uchder canolig hwn (6,500' – 18,000') bydd y llinellau yn weddol fras o'u cymharu â math tebyg ei olwg o draeth awyr a welir yn llawer uwch yn yr awyr (Cirrocumulus) sydd, oherwydd ei uchder, â'i resi yn ymddangos yn gul.
Dywediadau
golyguDywediadau cyffredin am y patrwm rhesog hwn, boed uchel neu isel, yw:
- Traeth awyr – glaw drannoeth.
- Cymylau fel defaid Jeriwsalem – cawodydd (Cwm Gwendraeth)
- Defaid Jacob – cawodydd (Cwm Tawe). Defaid Jacob am eu bod yn ddeuliw, sef yn dywyll ar eu hochr gysgodol a gwyn yn wyneb yr haul.
Galeri
golygu-
Altocumulus perlucidus
-
Altocumulus lenticularis
-
Altocumulus - machlud
-
Altocumulus floccus hefo llinell castellanus
-
Altocumulus yn ystod y dydd.
-
Fideo o Altocumulus yn Tokyo]