Alun Tan Lan
Canwr Cymreig yw Alun Evans sy'n perfformio o dan yr enw Alun Tan Lan.
Alun Tan Lan | |
---|---|
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | canwr, cyfansoddwr caneuon |
Rhyddhaodd y gitarydd, sydd yn dod o Bandy Tudur yn wreiddiol, ei ddau albwm cyntaf ar label RASAL, sef Aderyn Papur (2004) a Distawrwydd (2005). Enillodd Distawrydd gryn glod gan y beirniaid yn cynnwys yr Observer a wnaeth ei gynnwys ar restr y 10 albwm gorau i ddod allan o Gymru yn 2005.[1].
Mae Alun wedi bod yn aelod o'r grŵp syrff-roc Y Niwl.
Gwobrau
golyguYn 2006 enillodd Wobr Roc a Phop BBC Radio Cymru am yr Artist Gwrywaidd gorau. Yn 2007 cyhoeddodd albwm arall, Yr Aflonydd ar label o'r enw Aderyn Papur.
Yn 2010 Alun oedd cyfansoddwr y gân fuddugol wnaeth gipio Gwobr Cân i Gymru.
Disgyddiaeth
golygu- Aderyn Papur, Rasal, 2004
- Y Distawrwydd, Rasal, 2005
- Yr Aflonydd, Aderyn Papur, 2007
- Cymylau, albwm ddwbl ryddhawyd ar soundcloud.com, 2012
Cyfeiriadau
golyguDolenni allanol
golygu- Gwefan swyddogol Archifwyd 2016-11-04 yn y Peiriant Wayback
- Cyfrif Soundcloud